Newyddion S4C

Cau banciau a thorri trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud pobl hŷn ‘yn fregus ac yn unig’

07/07/2024
Lis Huws - Iris Owen.png

Mae pryderon y gallai pobl hŷn ‘golli eu hannibyniaeth’ a bod yn fwy agored i dwyllwyr oherwydd ‘diffyg’ gwasanaethau bws gwledig a changhennau banc yn cau.

Mae’r elusen Age Cymru yn galw ar y llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd i ddod â gwahaniaethu ar sail oedran i ben ac ystyried sut y bydd angen ymdrin â phoblogaeth sydd yn heneiddio.

Mae nhw'n galw am:

  • Ddiwygio Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2023 er mwyn diogelu gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb yn ogystal â diogelu mynediad at arian parod

  • Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus i’w cysylltu yn hawdd, ac nid ar-lein yn unig.

  • Sicrhau bod banciau yn cynnig gwasanaethau dwyieithog

  • Gwella cyfathrebu gyda phobl hŷn er mwyn helpu nhw i deall yn well sut i osgoi twyll a sgamiau

Cafodd 10% o wasanaethau bws yng Nghymru eu cwtogi y llynedd, gyda chyllideb £150m Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod y pandemig yn dod i ben.

Mae cwmniau bysiau hefyd wedi newid llwybrau wrth i’r niferoedd sydd yn defnyddio bysiau ostwng wedi’r pandemig.

Yn ogystal daeth gwasanaeth Fflecsi Bwcabws i ben yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion y llynedd wedi i arian o grant datblygu gwledig ddod i ben.

Lis Huws, Bontnewydd

Image
Lis Huws
Lis Huws

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Lis Huws, 77 oed, symud o’i chartref yn Rhostryfan i Bontnewydd ger Caernarfon.

Mae hi’n parhau i yrru ac yn falch o fyw bywyd “annibynnol” ond un o’r rhesymau dros symud oedd y cyfleustra o fod mewn lleoliad â rhagor o wasanaethau bws.

“Am fod o’n haws symudish i Bontnewydd,” meddai Ms Huws.

“Fel mae rywun yn mynd yn hŷn, di nhw’m yn gwybod am faint di nhw’n medru dreifio nachdi.

“Tydi bysus ddim mor aml yna o gwbl. Pan da chi’n mynd allan yn Rhostryfan, mae gennych chi’r allt wastad i ddod adra i, dwi fwy ar y gwastad fan hyn. Dwi yn gallu mynd i fyny elltydd ond mae’n hawsach lawr y gwaelod ‘ma. Mae’n gynhesach i ddweud y gwir.

“Dwi yn defnyddio’r bys yma hefyd, fwy i ddeud y gwir ers pryd dwi’n Bont.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod gwasanaethau bysiau yn ‘achubiaeth’ i lawer yng Nghymru ac yn chwarae rôl ‘hollbwysig’ wrth geisio cyrraedd targedau o bod yn gynaliadwy.

Iris Owen, Waunfawr

Image
Iris Owen
Iris Owen

Mae Iris Owen o Waunfawr yn dweud bod cael mynediad i fanc yn bwysig iddi hi ar ôl iddi gael ei thwyllo ar-lein.

Mae 374 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers 2015, gyda HSBC hefyd yn cau llinell gwybodaeth dros ffôn yn y Gymraeg.

“Dwi’n mynd i’r banc yng Nghaernarfon a dw i’n gobeithio nad ydyn nhw’n mynd i gau yn y dyfodol agos. Ond os fysan nhw, mae’r gŵr a fi yn reit hen ffasiwn ein ffordd, sa ni’m yn gallu neud yr online banking a pethau," meddai Iris Owen.. 

“Dwi di cael fy sgamio dwywaith wrth drio prynu rwbath ar y wê, a felly dwi ddim yn neud dim mwy.  Ond oedd rhaid i mi fynd i’r banc yn ddiweddar a gorfod ffonio efo pobol Fraud a ryw bethau fel hynna, a wedyn, ac mae hwnna’n rhoi ofn i rywun. 

“Y tro dwytha iddo fo ddigwydd, £68 naethon ni golli. Prynu dillad i’r ferch o’n i, ag on i’n meddwl ‘does na’m golwg o’r parsel yn cyrraedd’. Neshi ofyn iddi hi, ‘tua faint o amser dio’n gymryd?’ a dyma hi’n gofyn ‘be ti di neud mam?’. 

“Oedd hi’n gofyn os oeddwn i ‘di setio account i fyny a dyma fi’n deud naddo, nath y cynnig ddod i fyny’n sydyn ar y ffôn a wedyn wrth gwrs, oedd hi’n deud ‘gobeithio bo chdi wedi dysgu rwan.’ 

“Ond neshi fynd i’r banc, nesh i reportio fo a fu’sh i’n ista am awr yn egluro be oedd di digwydd, ac dywedodd nhw achos bo fi di reportio fo’n syth,  oeddan nhw’n medru rhoi’r ad-daliad yn ôl i fi. 

“Dydi o ddim yn rwbath neis pan mae’n digwydd. Er doedd o ddim yn lot fawr o bres, mae wedi’n nychryn i a dw i ddim yn meddwl fydda i’n prynu dim byd eto, na’i ofyn i’r ferch.”

Ychwanegodd Lis Huws: “Dwi’n teimlo os fysa fy manc i yn symud o Gaernarfon, fyddai ddim yn hapus o gwbl a fysa’n rhaid i fi symud i fanc sydd yn Gaernarfon. Swni ddim isho trafeilio – mae rhai yn trafeilio i Landudno neu i Fangor, ond dio’m mor gyfleus.

“Dwi’n un o’r deinasoriaid, dwi ddim ar-lein. Dydw i ddim ar y wê eto. Ond yn y banc, da chi’n cael siarad wyneb yn wyneb, dim yn gorfod delio efo pobol ar y ffôn. Mae’n hwylus.”

Mae HSBC wedi dweud eu bod wedi cau’r gwasanaeth iaith Gymraeg oherwydd "lefel hynod isel o alwadau".

Ond mae'r banc yn dweud bellach eu bod yn cynnig gwasanaeth galw yn ôl o fewn un diwrnod i gwsmeriaid sydd eisiau trafod yn y Gymraeg.

Image
Rhian Morgan
Rhian Morgan, Age Cymru

Dywedodd Rhian Morgan, Swyddog Materion Cyhoeddus Cenedlaethol, Age Cymru: “Gyda trafnidiaeth, mae angen gwneud yn siwr bod pob ardal yng Nghymru yn cael trafnidiaeth sydd yn ddigon aml i’r pobl hŷn sydd yn methu gyrru ac yn dibynnu ar y wasanaeth. 

“O’r rhan bancio, mae nifer o effeithiau ar y bobl hŷn gyda’r canghennau yn cau. Un ohonyn nhw yw eu bod yn fwy tebygol o gael eu sgamio, so mae angen gwneud mwy i atal sgamiau. Ac hefyd, mae rhai o’r pobl ni di siarad gyda wedi colli lot o arian oherwydd sgamiau. 

“Mae problemau yn dod pan mae banc yn cau mewn ardal ble does dim lot o drafnidaeth cyhoeddus, ac wedyn mae angen i’r person gael mwy nag un bws i gael i’r cangen nesaf. 

“Os di pobl ddim ar-lein, maen rhaid iddyn nhw wneud yn siwr bod cyfleusterau a gwasanaethau ar gael dros ar y ffôn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i bobl gael gwneud eu busnes bancio.”

Image
Llio Jones
Llio Jones, Age Cymru

Yn ôl Llio Jones, sydd yn gydlynydd Age Cymru yn ardal Môn a Gwynedd, mae’r galw am help gyda thrafnidaeth a siopa yn cynyddu oherwydd diffyg gwasanaethau bysiau.

“Da ni’n cael rywfaint o ddynion ac maen nhw’n colli annibyniaeth," meddai.

"Mae nhw methu dreifio dim mwy a dydyn nhw ddim isho dibynnu ar eu teulu. Dydyn nhw ddim yn licio deud, ‘dwi methu neud hyn dim mwy’, dydyn  nhw ddim yn licio goro’ deud hynny. 

“So wrth bod ni’n cefnogi nhw’n mynd allan, mae’n nhw’n cael cwmni hefyd.

“Di’r bysus ddim mor amal a sa nhw’n licio nhw. Mae’r gwasanaeth olaf i rai bentrefi am tua 19.00 a does na’m byd gyda’r nos. Ti’n gweld bechod ar rai dynion sydd di arfer mynd allan am beint weithiau efo’r ffrindiau i gael cwmni efo nhw, a dim byd i ddod adra, a neb i fynd a nhw a ddim yn gallu fforddio tacsi chwaith. 

“So maen nhw’n aros adra, dwi’n gweld bechod a maen nhw’n styc yn tŷ ar ben eu hunain.  Mae’n gallu neud rhai yn isel, achos bod nhw yn unig ac ddim yn gweld neb trwy’r dydd. 

“Does neb yn gweld nhw, does neb yn gwybod os ydyn nhw 'di disgyn, achos os maen nhw’n mynd a’r bys i dre, ella bod o’n mynd i’r un lle bob dydd a bod pobol yn gweld ‘oh mae o’n iawn’ – ac os di nhw ddim yn gweld nhw, maen nhw’n gweld bod na rhywbeth o’i le.

“Dylai’r gwleidyddion feddwl am y bobl hŷn. Maen nhw wedi talu i mewn i’r wlad ‘ma, holl flynyddoedd, i pawb arall, a mae’n rhaid edrych ar ôl nhw a meddwl amdan sut mae nhw’n cael eu trin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.