Pedwar cais i'r Cymro Josh Adams wrth i'r Llewod drechu yn Ne Affrica

Mae'r Llewod wedi curo eu gêm gyntaf ar eu taith yn Ne Affrica.
Louis Rees-Zammit oedd y cyntaf i sgorio dros y Llewod, ond Cymro arall sy'n hawlio'r penawdau.
Sgoriodd Josh Adams bedwar gwaith wrth i'r tîm drechu'r Sigma Lions 54-14 yn Johannesburg.
Bydd tîm Warren Gatland yn herio Cell C Sharks yn eu hail gêm o'u hymgyrch nos Fercher.
Darllenwch adroddiad llawn o'r gêm gan Mail Online yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans