Newyddion S4C

Menywod traws: Angen 'mwy o ymchwil' i'r maes cystadlu

05/07/2024
Maxine Hughes

Mae angen gwneud “llawer mwy o ymchwil” i weld a yw hi’n deg neu beidio i ganiatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd mewn chwaraeon, yn ôl un gwyddonydd.

Wrth siarad ar raglen ddogfen S4C Byd Eithafol: Chwarae Teg? dywedodd Dr Shane Hefferman bod angen “sampl fwy” o bobl traws er mwyn gallu cynnal gwaith ymchwil cynhwysfawr o ran tegwch galluogi menywod traws i gymryd rhan mewn categorïau benywaidd yn y byd chwaraeon. 

Ond wrth siarad â’r newyddiadurwraig a chyn-bencampwr Jiwdo Cymru, Maxine Hughes, dywedodd bod hynny’n “heriol” gan mai cyfran fach o’r boblogaeth sydd yn dewis newid eu rhywedd.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd Maxine Hughes yn trafod y dadleuon cymhleth sydd yn dominyddu’r byd chwaraeon ac yn gofyn a ddylid caniatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd.

Daw ar drothwy’r Gemau Olympaidd 2024 Paris, ble y bydd cynrychiolaeth gyfartal o athletwyr gwrywaidd a benywaidd am y tro cyntaf yn hanes y digwyddiad. 

Mae Meghan Cortez-Fields o’r UDA yn nofiwr ac yn fenyw traws. 

Mi wnaeth hi gystadlu yn nhîm y dynion yn y coleg am dair blynedd cyn trawsnewid i fenyw a dechrau nofio i dîm y menywod.  Mae'n dweud bod angen parchu pobl traws wrth gynnal trafodaethau o'r fath.  

“Mae llawer o bobl sydd yng nghanol hyn i gyd yn croesi'r llinell hynny pan mae'n dod at annilysu ein hunaniaeth. Ac yn honni ein bod ni’n rhyw fath o angenfilod.

“Mae’r lefel o ba mor anghyfforddus mae rhai ohonom ni’n teimlo...yn medru golygu lladd ein hunain – ac mae angen deall hynny...Ac mae difrifoldeb hynny angen ei werthfawrogi,” meddai. 

'Angen ymchwil pellach'

Y cyrff llywodraethu penodol ar gyfer pob categori chwaraeon sy’n parhau i gael y gair olaf ynglŷn â chaniatáu menywod traws i gystadlu yng nghategorïau benywaidd pob camp. 

Ond mae rhai athletwyr wedi galw ar Bwyllgor Olympaidd yr IOC i roi mwy o arweiniad ynglŷn â phenderfyniadau o’r fath. 

Yn athletwraig profiadol, mae Non Evans wedi cystadlu dros Gymru mewn sawl camp gan gynnwys reslo, jiwdo, rygbi, codi pwysau, tag rygbi a bocsio. 

Ac mae hi o’r gred na ddylai menywod traws gael yr hawl i gystadlu mewn categorïau benywaidd. 

“Baswn i ddim wedi cael yr un llwyddiant fi wedi cael yn fy ngyrfa petawn i wedi cystadlu mewn jiwdo, reslo, rygbi, codi pwysau yn erbyn person trans sydd wedi newid ar ôl 20 mlynedd,” meddai. 

“Os yw dyn wedi tyfu lan efo esgyrn yn fwy, testosteron yn y corff, calon yn fwy, popeth - mae gen i broblem gyda hwnna...Dim ots os maen nhw’n trans, dwi ddim yn hido dim.”

Mae Dr Shane Heffernan yn gadarn o’r farn mai ymchwil pellach ac amser fydd yn medru rhoi’r atebion i benderfynu a yw’n deg i fenywod traws i gystadlu yn yr un categorïau â menywod. 

“Os dewch yn ôl ata’i mewn deng mlynedd a gofyn y cwestiwn a ddylai menywod traws gystadlu yng nghategori’r merched, bydd gennym ddeng mlynedd yn fwy o wybodaeth, a byddwn yn fwy cymwys i geisio pennu’r polisïau cywir.”

Bydd rhaglen Byd Eithafol: Chwarae Teg? i’w gweld ar S4C ar 7 Gorffennaf am 20:00 a hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.