Newyddion S4C

Y cwmni Amazon yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed

05/07/2024
Amazon

Mae Amazon yn dathlu 30 mlynedd ers i Jeff Bezos sefydlu’r cwmni yn ei garej yn 1994 yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd.

Erbyn hyn mae’r cwmni, a ddechreuodd fel llyfrwerthwr ar-lein, wedi tyfu i fod yn gawr technoleg sy’n werth dau driliwn o ddoleri.

Ymddiswyddodd y sylfaenydd Jeff Bezos fel prif weithredwr yn 2021. Er hynny mae'n parhau i fod yn gadeirydd gweithredol a chyfranddaliwr mwyaf y cwmni.

Ers ei sefydlu mae Amazon wedi tyfu i fod yn flaenllaw yn y maes manwerthu ar-lein lle gall defnyddwyr brynu bron unrhyw beth.

Mae hefyd wedi ehangu, gan wneud llawer o'i gynhyrchion ei hun, gan gynnwys electroneg, dyfeisiau digidol, hybiau a seinyddion cartref clyfar.

Mae'r cwmni o Seattle hefyd wedi sefydlu'r cynorthwyydd rhithwir 'Alexa' sy'n pweru offer cartref clyfar. Yn ogystal mae Amazon Web Services (AWS) wedi ei ddyfeisio, cangen gyfrifiadurol cwmwl y cwmni sydd â chanolfannau data enfawr ledled y byd ac yn datblygu meddalwedd deallusrwydd artiffisial.

Mae Mr Bezos bellach wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu gwerthu bron i bum biliwn o ddoleri o werth cyfranddaliadau Amazon. 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad tebyg ym mis Chwefror pan ddywedodd y byddai'n gwerthu cyfranddaliadau gwerth 8.5 biliwn o ddoleri - y tro cyntaf ers 2021 iddo wahanu â chyfranddaliadau Amazon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.