Newyddion S4C

Dedfryd carchar i gyn-athrawes a gafodd rhyw gyda dau fachgen ysgol

Rebecca Joynes

Mae cyn athrawes a gafwyd yn euog o gael rhyw gyda dau fachgen ysgol wedi ei dedfrydu i chwe blynedd a hanner yn y carchar.

Roedd Rebecca Joynes, 30, wedi cymryd mantais o'r bechgyn o pan oeddynt yn 15 oed, ac roedd ar fechnïaeth am weithredoedd rhyw gyda'r plentyn cyntaf, Bachgen A, pan ddechreuodd gael rhyw gyda'r ail blentyn, Bachgen B.

Roedd Joynes yn feichiog ar ôl cael cyfathrach gyda Bachgen B.

Fe gafwyd yr athrawes yn euog o chwe chyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol â phlentyn, yn cynnwys dau pan oedd yn berson mewn safle o ymddiriedaeth.

Wrth gael ei dedfrydu yn Llys y Goron Manceinion ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Kate Cornell: “Rwyt ti wedi ymddwyn mewn ffordd hynod o drahaus.

“Ti oedd yr oedolyn.

“Ti oedd y person mewn rheolaeth, y person a ddylai wedi gwybod yn well a’r person yr oedd yr ysgol, y bechgyn a’u rhieni yn ymddiried ynddo i ofalu am y bechgyn.

“Yn lle hynny, fe wnes di gamddefnyddio dy safle er mwyn boddhad rhywiol dy hun.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.