Newyddion S4C

O leiaf 10 wedi eu lladd wedi i Gorwynt Beryl daro Môr y Caribî

04/07/2024

O leiaf 10 wedi eu lladd wedi i Gorwynt Beryl daro Môr y Caribî

Mae o leiaf 10 o bobl wedi eu lladd ar ynysoedd Môr y Caribî a channoedd o filoedd o gartrefi heb drydan yn Jamaica ar ôl i gorwynt daro nos Fercher.

Mae rhybuddion wedi eu rhoi am lifogydd trwm ar ôl i Gorwynt Beryl, un o’r stormydd cryfaf yr hanes y wlad, ddod a gwyntoedd dros 140 milltir yr awr a glaw trwm.

Roedd y storm wedi cryfhau drwy’r wythnos wrth iddo symud drwy Fôr y Caribî.

Y gred yw bod 10 o bobl wedi eu lladd hyd yma, ond mae disgwyl i'r nifer yma cynyddu. 

Bu farw dri pherson ddydd Llun yn Ynys Carriacou yn Grenada, gyda 90% o gartrefi’r ynys ac ynys Petite Martinique yn cael eu dinistrio.

Roedd Beryl hefyd wedi achosi difrod yn St Vincent a’r Grenadines a Venezuela, yn ogystal â chodi rhybudd corwynt yn Jamaica a Haiti.

Mae llywodraeth Jamaica wedi gosod cyrffiw wrth roi rhybudd am lifogydd trwm.

Roedd cyflenwyr trydan JPS wedi adrodd fod 400,000 o dai yn Jamaica heb drydan fore Iau.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi y bydd £3.1m yn cael ei ryddhau o’i chronfa ymateb argyfwng i fynd i afael â’r difrod.

Mae’r storm bellach wedi ei is-raddio i storm categori tri wrth iddo wneud ei ffordd tuag at Mecsico.

Llun: Wotchit/Getty Images

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.