Newyddion S4C

'Anrhydedd' i ddyn o Gwm Cynon i gael dyfarnu yn y Gemau Olympaidd

Newyddion S4C 04/07/2024

'Anrhydedd' i ddyn o Gwm Cynon i gael dyfarnu yn y Gemau Olympaidd

I Ben Breakspear o Gwm Cynon mae’n “anrhydedd” cael ei ddewis i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Yn teithio’r byd ar y gylchdaith saith bob ochr mae hefyd wedi dyfarnu ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ddiweddar.

“Ma’n anrhydedd. Fi’n prowd i allu rhoi nôl i‘r ysgol, i'r clwb, i deulu a ffrindiau am yr holl gefnogaeth, ma’n eithaf sbesial.”

Ei gyn athro ymarfer corff yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun oedd wedi ei annog i ddilyn cwrs dyfarnu fel un o’i bynciau TGAU.

“Oedd Mr Dai Cambourne yn dyfarnu yn yr uwch gynghrair ar y pryd, a nath e holi os o’n i awydd rhoi crac ar ddyfarnu, rhoi nôl i’r ysgol a rhoi nôl i’r clwb, wedyn cam wrth gam ma’ di mynd o fanna.

“Lot fawr o waith caled, seicolegol, ffisegol, tactegol, ma’ lot fwy na’r 80 munud ma’ pawb yn gweld ar ddydd Sadwrn.”

Image
Ben Breakspear
Ben Breakspear gydag un o'i dimau dyfarnu.

Mae ei ddiolch hefyd i Glwb Rygbi Abercynon lle bu’n chwarae fel maswr i’r timau ieuenctid cyn troi ei sylw at ddyfarnu.

“Ma’n glwb eithaf sbesial i fi, dyma lle nes i dyfu lan mae yng nghanol y gymuned ac mae’n gymuned eithaf tynn.

“Nes i gychwyn chwarae ‘ma yn saith mlwydd oed felly fi 'di gwario lot o amser ar y caeau yma.”

Yn ogystal â gweithio fel dyfarnwr proffesiynol mae hefyd yn gweithio fel dyn tân a ffisiotherapydd yn y gwasanaeth iechyd.

“Ma’r wythnos yn eithaf prysur i fi wrth i fi drio cydbwyso tair swydd ond i fod yn deg ma’r tri cyflogwr yn gefnogol iawn.”

Gyda nifer o ddyfarnwyr a chyn-ddyfarnwyr wedi siarad yn gyhoeddus am y gamdriniaeth maen nhw wedi ei dderbyn mae Ben yn ymwybodol o’r heriau mae dyfarnwyr y neu wynebu.

Image
Ben Breakspear
Mae Ben yn ymwybodol o'r heriau sydd yn dod â dyfarnu.

“Mae’n anodd. Mae’ch enwau chi mas ‘na, yn y cyfryngau a’r newyddion.

“Ond jyst i annog y dyfarnwyr ifanc sy’n dod trwyddo, dim ond canran bach o’r negeseuon cas yna ni’n cael.

“I fi ma’ rygbi wedi rhoi lot i fi, y cyfle i deithio’r byd, i dyfu fel person, nid yn unig fel dyfarnwr ond y sgiliau bywyd mae di roi i fi.

“Mae’n anodd i ddelio efo pan ma’n digwydd ond ma’ 'na gefnogaeth yno i’ch cefnogi chi.

“Ma’r gem yn lot mwy na’r cam-drin sy’n mynd ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.