Newyddion S4C

Dartiau: Jonny Clayton yn ennill Pencampwriaeth y Chwaraewyr

04/07/2024
Jonny Clayton

Mae Jonny Clayton wedi ennill ei gystadleuaeth gyntaf ers dros flwyddyn ar ôl ennill Pencampwriaeth y Chwaraewyr ym Milton Keynes.

Enillodd y Cymro 8-5 yn erbyn Wesley Plaisier yn y rownd derfynol ddydd Mercher i sicrhau'r fuddugoliaeth.

O ganlyniad mae'n codi i safle rhif 8 yn y byd cyn cystadleuaeth y World Matchplay yn Blackpool sydd yn cychwyn ar 13 Gorffennaf.

Fydd yn wynebu cyn-bencampwr y byd Raymond van Barneveld a bydd Gerwyn Price yn wynebu Daryl Gurney o Ogledd Iwerddon.

Roedd Clayton wedi trechu nifer o enwau cyfarwydd yn y gamp ar ei daith i'r rownd derfynol gan gynnwys Martin Schindler a Cameron Menzies.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth dywedodd fod ei berfformiadau'n gwella ac mae nôl yn chwarae gyda wen ar ei wyneb.

"Mae eich hyder yn isel pan nad ydych chi'n ennill, ond mae gen i fy mojo nôl.

"Dwi'n chwarae gyda gwên ar fy wyneb. Doeddwn i ddim yn chwarae i safon dda ar ddechrau’r flwyddyn ond mae rhywbeth wedi clicio.

"Dwi wedi chwarae'n dda yn y gystadleuaeth hon, felly mae'r cysondeb yno, a chroesi bysedd fe allai parhau i fynd.

"Mae'n amser grêt i ddarganfod y cysondeb eto gyda'r World Matchplay ar y gorwel, a gobeithio byddaf yn gallu mynd cam ymhellach eleni."

Cyrhaeddodd Clayton y rownd derfynol y llynedd cyn colli i Nathan Aspinall.

Llun: PDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.