Batwyr Sussex yn cosbi Morgannwg yng Nghaerdydd

Mae tîm criced Sussex wedi curo Morgannwg o 33 o rediadau mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast, gyda chwaraewr gafodd ei eni yng Nghymru a throellwr coes 16 oed yn serennu i’r ymwelwyr.
Sgoriodd Sussex 201 am wyth ar ôl dewis batio, gyda Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, yn sgorio 63 oddi ar 35 o belenni, gyda naw pedwar ac un chwech, a Luke Wright yn sgorio 77 oddi ar 41 o belenni, gydag 11 pedwar a thri chwech, mewn partneriaeth agoriadol o 144 mewn 12.3 o belawdau, meddai Golwg360.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans