Newyddion S4C

Warren Gatland yn cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Awstralia

04/07/2024
Aaron Wainwright

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Awstralia yn y gyntaf o dair gêm yn y wlad.

Bydd Aaron Wainwright yn ennill ei 50fed cap rhyngwladol pan fydd Cymru yn herio'r Wallabies yn Stadiwm Allianz, Sydney ddydd Sadwrn.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn erbyn Awstralia ers iddynt eu trechu 40-6 yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref 2023.

Bydd Josh Hathaway o Aberystwyth, sydd yn chwarae dros glwb Caerloyw, yn dechrau ar yr asgell yn ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ac yntau ond yn 20 oed.

Rio Dyer sydd ar yr asgell arall tra bod Liam Williams yn ennill cap rhif 91 yn safle'r cefnwr.

Bydd Mason Grady ac Owen Watkin yn safle'r canolwyr.

Mae Ellis Bevan yn cadw ei le yn safle'r mewnwr ar ôl ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn De Affrica ar 22 Mehefin tra bod ymddangosiad cyntaf ers 2021 i Ben Thomas yn safle'r maswr, yn lle Sam Costelow.

Capten Cymru Dewi Lake sydd yn dechrau yn y rheng flaen gyda Archie Griffin o Gaerfaddon, sydd yn dechrau gêm dros ei wlad am y tro cyntaf, a phrop y Gweilch, Gareth Thomas.

Ail reng ifanc sydd gan Gymru wrth i Christ Tshiunza fod yn bartner i'w gyd chwaraewr yng nghlwb Exeter Chiefs, Dafydd Jenkins.

Taine Plumtree a Tommy Reffell yw'r blaenasgellwyr gyda Wainwright y tu ôl iddynt yn safle'r wythwr.

Ar y fainc mae Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Harri O’Connor, Cory Hill, James Botham, Kieran Hardy, Sam Costelow a Nick Tompkins.

'Brwydr am 80 munud'

Dyma fydd gêm gyntaf Cymru ar y daith.

Ar ôl herio Awstralia yn Sydney bydd Cymru yn eu herio eto ym Melbourne ar 13 Gorffennaf cyn wynebu Queensland Reds chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Gyda dau ddiwrnod tan y gic gyntaf mae Warren Gatland wedi dweud bod angen i Gymru frwydro am y gêm gyfan

"Rydym ni wedi cael wythnos dda o baratoadau yma yn Sydney ac yn gyffrous i fynd allan ar y cae ddydd Sadwrn.

"Bydd y gêm gyntaf hon yn her fawr i ni. Mae gemau fel hyn i gyd am y pethau bach, rydym yn gwybod bod angen i ni ganolbwyntio, cadw disgyblaeth ac aros yn rhan o'r frwydr am 80 munud.

"Mae llawer o dalent yng ngharfan Awstralia ac rydym yn gwybod bydden nhw eisiau dechrau'n gryf a pherfformio'n dda yn erbyn ni y penwythnos yma."

Tîm Cymru i wynebu Awstraia

15. Liam Williams (Kubota Spears – 90 cap)
14. Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 39 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 12 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 20 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd– 2 gap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 1 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 31 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 13 cap)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)
4. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs – 10 cap)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 17 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 3 chap)
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers – 18 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 49 cap)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd  – 3 chap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 3 chap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 2 gap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
20. James Botham (Caerdydd – 11 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 21 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 13 cap)
23. Nick Tompkins (Saracens – 36 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.