'Yma i aros': Joe Biden yn dweud na fydd yn gadael y ras arlywyddol
Mae Joe Biden yn dweud na fydd yn 'camu o'r neilltu' o'r ras arlywyddol yn dilyn cyfarfod gyda'r Dirprwy Arlywydd Kamala Harris.
Fe wnaeth rhai aelodau o blaid y Democratiaid gwestiynu a ddylai Mr Biden wynebu Donald Trump yn etholiad arlywyddol y wlad ar ôl atebion tawel ac aneglur yn dilyn dadl deledu gyntaf y ras arlywyddol ar 27 Mehefin.
Ar ôl cyfarfod gyda Kamala Harris yn y Tŷ Gwyn ddydd Mercher roedd y ddau wedi ymuno â chyfarfod gyda 20 o lywodraethwyr Democrataidd wrth i Biden, 81 oed, dweud ei fod yn parhau fel ymgeisydd arlywyddol y blaid.
Dywedodd "fi yw enwebiad y Blaid Democratiaid. Does neb yn fy ngwthio i allan. Dwi yma i aros," yn ôl ffynhonnell.
Cafodd yr un geiriau eu hadrodd mewn e-bost a gafodd ei ddanfon gan ymgyrch Biden-Harris a ddywedodd "gadewch i mi ddweud hwn mor glir a syml ag y gallaf: Dwi'n rhedeg fel yr ymgeisydd."
Ymysg rhai yn y cyfarfod oedd Gavin Newsom o Galiffornia a Gretchen Whitmer o Michigan. Mae'r ddau yn enwau posibl i gymryd le Mr Biden pe bai yn camu o'r neilltu.
“Mae’r arlywydd bob amser wedi edrych allan amdanom, rydyn ni’n mynd i edrych allan iddo ef hefyd,” meddai Llywodraethwr Maryland, Wes Moore, wrth ohebwyr ar ôl y cyfarfod.
Dywedodd Llywodraethwr Efrog Newydd, Kathy Hochul, fod y ddau ddwsin o lywodraethwyr oedd newydd gwrdd â’r arlywydd wedi addo eu cefnogaeth iddo.
Mae Ms Harris yn dal i gael ei hystyried fel yr olynydd mwyaf tebygol petai yn camu o'r neilltu.
Trump 'ar y blaen'
Dywedodd Mr Biden fod ei berfformiad gwael yn erbyn Donald Trump yn sgil blinder ar ôl teithio o gwmpas y byd cyn y ddadl.
Ond mae'r cyfryngau wedi cyfeirio at y ffaith ei fod wedi bod yn paratoi yn Camp David ar gyfer y ddadl gyntaf yn erbyn Donald Trump am wythnos ar ôl teithio.
Yn y dyddiau ers y ddadl mae'r pwysau ar Mr Biden i roi’r gorau iddi wedi cynyddu wrth i fwy o arolygon barn nodi bod Mr Trump ar y blaen.
Awgrymodd arolwg barn gan The New York Times, a gynhaliwyd ar ôl y ddadl, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, fod Donald Trump bellach ar y blaen o chwe phwynt.