Yr Arlywydd Biden yn 'ystyried camu o'r neilltu' o'r ras arlywyddol
Mae'r Arlywydd Biden wedi dweud wrth "gyswllt agos" ei fod yn ystyried camu o'r neilltu o etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd Mr Biden dros nos ei fod "bron wedi disgyn i gysgu" yn ystod y ddadl arlywyddol gyntaf yr wythnos diwethaf.
Fe wnaeth rhai Democratiaid gwestiynu a ddylai Mr Biden wynebu Donald Trump yn etholiad arlywyddol y wlad ar ôl atebion tawel ac aneglur yn dilyn dadl deledu gyntaf y ras arlywyddol.
Mae'r New York Times yn adrodd fod "cyswllt agos" di-enw i'r arlywydd yn dweud: "Mae'n gwybod os ydy o'n cael dau ddigwyddiad arall fel yr un yna, rydan ni mewn lle gwahanol" erbyn y penwythnos.
Mae'r papur newydd yn adrodd fod yr arlywydd yn parhau i geisio gael ei ail-ethol ond fod ei ymddangosiadau nesaf yn allweddol.
Dywedodd Mr Biden fod ei berfformiad gwael yn sgil blinder ar ôl teithio o gwmpas y byd ychydig cyn y ddadl.
Ond mae y cyfryngau wedi cyfeirio at y ffaith ei fod wedi bod yn paratoi yn Camp David ar gyfer y ddadl gyntaf yn erbyn Donald Trump am wythnos ar ôl teithio.