Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar Ynys Enlli ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal gan gerbyd

Ynys Enlli

Mae cwest wedi clywed fod dyn wedi marw ar Ynys Enlli ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal gan gerbyd yr oedd yn ei yrru.

Ddydd Mercher 19 Mehefin, cafodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiad bod dyn 63 oed wedi dioddef anafiadau i’w frest ar yr ynys oddi ar arfordir Llŷn.

Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, medden nhw.

Clywodd cwest yng Nghaernarfon bod Christopher Charles Lamont, o'r Amwythig, wedi ei gyflogi dros dro i gludo bagiau rhwng fferi a llety ar yr ynys.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.