Newyddion S4C

Gwahardd ffonau mewn ysgolion ddim yn gwella iechyd meddwl medd astudiaeth

Ffon symudol yn cael ei rhoi o'r neilltu mewn ysgol

Dyw gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion ddim yn gwella graddau nag iechyd meddwl pobl ifanc, meddai astudiaeth newydd.

Fe wnaeth Prifysgol Birmingham ddarganfod nad oedd yna wahaniaeth yng nghwsg, ymddygiad yn y dosbarth nag ymarfer corff rhwng disgyblion lle'r oedd y gwaharddiad yn ei le o'i gymharu ag ysgolion eraill.

Ond un o’r casgliadau oedd bod treulio mwy o amser ar ffonau symudol a’r cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn effeithio ar y pethau yma.

Roedd yna hefyd effaith ar iechyd meddwl.

Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod cyfyngu ar ddefnydd o ffonau symudol yn yr ysgol ddim yn lleihau faint o amser roedd pobl ifanc yn treulio ar y ffôn.

Fe wnaeth yr astudiaeth, y cyntaf o’i fath, gymharu 1,227 o ddisgyblion mewn 30 o ysgolion uwchradd yn Lloegr.

Yn ôl prif awdur yr adroddiad, Dr Victoria Goodyear, dyw gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion ddim yn ffordd effeithiol o ddelio gyda’r effeithiau negyddol o or-ddefnyddio ffôn. 

“Yr hyn rydyn ni yn awgrymu ydy bod y gwaharddiadau yma ar ben eu hunain ddim yn ddigon i daclo’r effeithiau negyddol,” meddai wrth y BBC.

“Mae angen i ni wneud mwy na dim ond gwahardd ffonau mewn ysgolion.”

Mae’r astudiaeth yn galw am agwedd fwy “holistaidd” er mwyn lleihau’r defnydd ymhlith pobl ifanc. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.