Newyddion S4C

Dewi Llwyd: 'Cyflwyno ar noson etholiad yn uchafbwynt darlledu'

04/07/2024
Dewi Llwyd

Eleni fydd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf i'r cyflwynydd a'r darlledwr, Dewi Llwyd, beidio gweithio dros nos arno ers 1983.

Ar hyd y blynyddoedd, mae Dewi wedi darlledu ar rai o brif ddigwyddiadau gwleidyddol y wlad, ac wedi cyflwyno rhaglenni canlyniadau 10 Etholiad Cyffredinol, chwe Etholiad Senedd Cymru a phedwar refferendwm ar S4C.

Newyddion S4C fu'n holi Dewi am rai o'r prif atgofion sydd wedi aros yn y cof ar hyd y blynyddoedd. 

Ydych chi'n cofio eich noson etholiad gyntaf?

"Etholiad 1983 oedd y tro cyntaf imi ddarlledu trwy’r nos, ac mae’r cof am y noson ychydig yn niwlog erbyn hyn! Ond mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y rhaglen honno â’r rhai a ddaeth yn ei sgil yn aruthrol. Bellach mae’r cyfrifiadur yn cynnig môr o wybodaeth o fewn eiliadau. 

"Bryd hynny roedd y canlyniadau’n cael eu rhoi imi ar ddarnau o bapur. Roedd hi hefyd yn noson ardderchog i’r Ceidwadwyr a Margaret Thatcher, ac roedd y darpar Aelod Seneddol Ceidwadol, Rod Richards yn rhan o’n tîm cyflwyno ni. Ei waith oedd dangos ar fap y newid gwleidyddol oedd yn digwydd, ond darn enfawr o bapur oedd y map hwnnw, a Rod yn defnyddio ffon fach i bwyntio tuag ato. Erbyn heddiw mae’r cyfan yn swnio’n amaturaidd iawn!"

Image
Dewi Llwyd
Mae Dewi Llwyd wedi cyflwyno rhaglenni canlyniadau 10 Etholiad Cyffredinol, chwe Etholiad Senedd Cymru a phedwar refferendwm ar S4C

Beth ydi'r canlyniad fwyaf anisgwyl i chi weld ar noson etholiad?

"Mae canlyniad etholiad 1997 yn aros yn y cof, nid am ei fod yn annisgwyl ond am fod mwyafrif Tony Blair a Llafur Newydd mor fawr. Mi gafodd pawb ei synnu gan ganlyniad etholiad 2017. Roedd pawb yn disgwyl i Theresa May ennill gyda mwyafrif cyfforddus, ond nid felly y bu. 

"Mae’r cyflwynydd yn cael gwybod rhyw hanner awr cyn y rhaglen beth ydy canlyniad yr arolwg o’r modd mae pobl wedi pleidleisio, ac mae hwnnw fel arfer yn gwbl gywir. Dwi’n cofio Vaughan Roderick a finna’n rhyfeddu ein bod ni ar fin cael senedd grog. 

"Ond rhaglen refferendwm nid etholiad ydy’r un a fydd yn aros hiraf yn y cof. Refferendwm datganoli 1997. Am dri o’r gloch y bore roedd hi’n ymddangos fod yr ochr ‘IE’ yn mynd i golli, ac mi adawodd Dafydd Iwan y stiwdio yn ei ddagrau. 

"Ond tua phedwar o’r gloch mi gawson ni wybod gan John Meredith yng Nghaerfyrddin mai fel arall y byddai hi, o drwch blewyn. Ni oedd y rhaglen gyntaf i gyhoeddi’r newydd hwnnw, ac erbyn hynny roedd Dafydd yn ôl yn ei sedd!"

Image
Dewi Llwyd
Ar hyd y blynyddoedd, mae Dewi wedi darlledu ar rai o brif ddigwyddiadau gwleidyddol y wlad

Sut oeddech chi'n paratoi ar gyfer y noson, ac yn llwyddo i ddarlledu yn ddi-dor am 10 awr?

"Roedd yna wythnosau lawer o baratoi, o wneud nodiadau, o ddysgu ffeithiau, o ymarfer. Mi fyddwn i wastad yn dweud fod cyflwyno ar noson etholiad yn uchafbwynt darlledu. 

"Er fod llawer mwy yn gwylio rhifyn o ‘Pawb a’i Farn’ dyweder, roedd rhaglen etholiad fel rownd derfynol y cwpan i ddarlledwr, yn sicr yn un o uchafbwyntiau’r yrfa. 

"Efallai fod nifer y gwylwyr yn lleihau wrth i’r noson fynd yn ei blaen, ond roedden nhw mor ffyddlon i’r rhaglen, yn gofyn cwestiynau’n gyson, weithiau’n canmol, ond yn aml yn cwyno - pam nad oes gynnoch chi gamerau yn ein hetholaeth ni?! Roeddem ni fel un teulu mawr yn dod at ein gilydd, ac yn dipyn o fraint i’r cyflwynydd dros gyfnod mor hir."

Image
Dewi

Yn ddarlledwr ifanc, pwy oedd yn ddylanwadau mawr arnoch chi?

"O ran darlledu etholiadau, mae’n debyg ‘mod i wastad wedi edrych yn llawn edmygedd ar David Dimbleby wrth ei waith yn llywio popeth mor fedrus, ac yn llawn cenfigen hefyd o’r holl adnoddau oedd ganddo! 

"Ond rhyw ddilyn ein cwys ein hunain oeddem ni ar S4C, yn dysgu wrth fynd yn ein blaenau a dwi’n credu y galla i ddweud ar ôl cyflwyno deg o raglenni etholiad cyffredinol fod pob rhaglen wedi bod yn uwch ei safon na’r un flaenorol. 

Image
David Dimbleby a Dewi Llwyd
David Dimbleby a Dewi Llwyd

"Gwaith tîm sy’n gyfrifol am hynny ac mae’r cyflwynydd wastad yn ddiolchgar i’r ugeiniau o bobl sy’n cyfrannu i’r noson. Ar y rhaglen gyntaf honno yn 1983, trydydd aelod y tîm (tri o ddynion!) oedd Gwyn Llewelyn ac yn y dyddiau cynnar mi ges i sawl gair doeth o gyngor a chefnogaeth ganddo."

Rydych chi adref ar y soffa yn gwylio'r etholiad ar y teledu - pa dri pherson fyddech chi'n ddewis i ymuno â chi i ddilyn y cyfan?

"Wel 'dwi wastad wedi dweud y byddwn yn edrych ymlaen ar ôl ymddeol i fod gartref yn gwylio drwy’r nos ar y soffa. Ond fydd hynny ddim yn digwydd eleni. Mi fydda i mewn gwesty yng Nghaerdydd yn paratoi ar gyfer rhifyn dwy awr o Dros Ginio ar Radio Cymru ddydd Gwener - llai o waith o lawer na’r blynyddoedd a fu, diolch byth, ond ‘dwi’n rhagweld rhaglen ddifyr a chyffrous! 

"Cwmni teulu a ffrindiau fydd yn dda ar y soffa pan ddaw’r cyfle, yn enwedig ambell un oedd wastad yn anfon neges o ddiolch ar ddiwedd rhaglen hirfaith! Ond mae’n siŵr y gallem wneud lle ar y soffa hefyd i’r Athro Richard Wyn Jones pe bai o’n digwydd bod ar gael! 

"Siocled, bananas a digon o goffi oedd yr arlwy yn y stiwdio bob amser. Dwi’n cofio cael powlen o uwd ambell dro hefyd wrth iddi ddechrau gwawrio. Hyd yn oed gartref ar y soffa, mi fyddai’r rheiny’n dal yn ffefrynnau!"

Image
Dewi yn bwyta uwd ar set raglen Etholiad ar S4C
Dewi yn bwyta tamaid o uwd ar noson etholiad

Oes yna un stori sy'n aros yn y cof yn fwy na'r gweddill?

"Roedd yna bethau’n mynd o chwith yn gyson, ond camp y cyflwynydd ydy ceisio llywio’r cwch yn weddol esmwyth drwy’r cyfan. A rhywsut dydy camgymeriadau ddim yn ymddangos mor ddrwg am hanner awr wedi dau y bore! Ond mae rhywun yn dal i wrido wrth gofio ambell un. 

"Yn 1983 pan oedd technoleg braidd yn sigledig, mi wnaethon ni gyhoeddi fod Gareth Wardell a Llafur wedi colli yng Ngŵyr gan ddechrau cael ymateb siomedig yr Arglwydd Cledwyn Hughes i’r canlyniad annisgwyl hwnnw. 

"Ddeng munud yn ddiweddarach, roedd yn rhaid i ni ymddiheuro fod Mr Wardell wedi cadw ei sedd wedi’r cwbl. Dim rhyfedd ‘mod i wedi pwysleisio ers hynny fod rhaid cael y canlyniad yn gywir ac yn gyflym. 

Image
Dewi yn cael cwmni Vaughan Roderick a Betsan Powys ar set rhaglen Etholiad S4C
Dewi yn cael cwmni Vaughan Roderick a Betsan Powys ar set rhaglen Etholiad S4C

"Anaml iawn y bydda i’n cynhyrfu. Ond mi gyrhaeddais y stiwdio ar gyfer un rhaglen etholiad a sylweddoli fod ei dechrau hi'n mynd i fod dan gwmwl o rew sych (dry ice), fel rhyw sioe adloniant ysgafn mewn theatr. Dwi’n ofni imi ddweud wrth y tîm cynhyrchu fod yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng y cyflwynydd neu’r rhew sych! 

"Mi ddiflannodd y cwmwl yn bur sydyn. Ond ar y cyfan mae’r atgofion yn rhai melys tu hwnt, a dwi’n dymuno pobl lwc i’r genhedlaeth newydd sydd bellach wrth y llyw. Mae eu gwasanaeth canlyniadau’n hollbwysig a dwi’n ffyddiog y byddan nhw’n mwynhau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.