
Etholiad '24: Y gorsafoedd pleidleisio ar agor ar draws y DU
Mae'r gorsafoedd pleidleisio wedi agor ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Bydd bob un o'r 650 o etholaethau yn dewis Aelod Seneddol i'w cynrychioli yn San Steffan.
Bydd nifer yr Aelodau Cymreig yn cael eu cwtogi o 40 i 32 yn dilyn adolygiad o’r ffiniau dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phob ffin etholaethol heblaw am un yn newid, a rhai ohonyn nhw'n cael enwau newydd.
Mae’r cyfan yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan bob etholaeth nifer tebyg o bleidleiswyr – rhwng 69,724 a 77,062.
Ynys Môn fydd yr unig eithriad am ei bod yn cael "statws gwarchodedig" am ei bod ar wahân i’r tir mawr.
Mae'r blychau pleidleisio wedi bod ar agor ers 07:00, ac fe fyddan nhw'n parhau ar agor tan 22:00 nos Iau.

Bydd yn rhaid i bawb sydd yn dymuno bwrw eu pleidlais ddangos cerdyn adnabod gyda llun yn yr orsaf bleidleisio.
Nid yw pob math o lun yn dderbyniol, ond mae pasbort, trwydded yrru a phas bws person hŷn neu fathodyn glas anabl i gyd yn gymwys.
Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu cynnal fel arfer bob pum mlynedd.
Ond gall y prif weinidog alw etholiad ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod pum mlynedd.
Bydd modd dilyn canlyniadau'r etholiad ar ein gwefan ac ar raglen Newyddion S4C yn llinol, ar S4C Clic neu BBC iPlayer.