Newyddion S4C

Gwyliwch: Dedfryd o garchar wedi ei gohirio i ddyn o Brestatyn am yrru'r beryglus

Gwyliwch: Dedfryd o garchar wedi ei gohirio i ddyn o Brestatyn am yrru'r beryglus

Mae dyn o Brestatyn wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio yn dilyn achos o yrru’n beryglus ar ffordd yr A55 ger Llanelwy. 

Fe ymddangosodd Paul Woodward, 55 oed o Rodfa Melyd, o flaen Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddar wedi’r digwyddiad ar Fryn Rhuallt ar 15 Medi y llynedd. 

Roedd Mr Woodward wedi gyrru i mewn i gefn cerbyd arall ôl i yrrwr y cerbyd arall ceisio gyrru heibio iddo.

Fe honnodd Mr Woodward mai gyrrwr y cerbyd arall oedd ar fai ond fe gafodd lluniau cylch cyfyng eu dangos yn y llys, oedd yn dangos ei fan gwyn Citroen Berlingo yn gwrthdaro gyda char VW Golf lliw arian – gan achosi iddo droelli yng nghanol y ffordd. 

Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad toc ar ôl 16.30 adeg y gwrthdrawiad. Doedd neb wedi’u hanafu’n ddifrifol. 

Fe gafodd Mr Woodward ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa yn Llanelwy. 

Mae wedi’i ddedfrydu i 15 mis o garchar wedi ei ohirio am 18 mis, ac fe gafodd ei atal rhag gyrru am 18 mis.

Bydd yn rhaid iddo gwblhau 150 awr o waith di-dâl hefyd, yn ogystal â chyflawni 20 diwrnod o waith ble y bydd yn rhaid iddo hunan-adlewyrchu. 

Dywedodd yr heddwas Haydn Roberts-Powell o uned troseddau’r ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn “croesawu’r” dedfryd. 

“Mae’n wyrthiol ni chafodd unrhyw un, gan gynnwys modurwyr eraill, eu hanafu’n ddifrifol.”

“Mae’n amlwg ei fod yn dioddef o'r cythraul gyrru, ac mae hynny’n hollol annerbyniol ar y ffordd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.