Newyddion S4C

Etholiad UDA: Democrat yn galw ar Biden i fynd

03/07/2024
Joe Biden a Donald Trump

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud mai blinder ar ôl bod yn teithio oedd yn gyfrifol am ei berfformiad mewn dadl deledu wythnos diwethaf. 

“Wnes i ddim gwrando ar fy staff…ac nes i bron disgyn i gysgu ar y llwyfan,” meddai.

Yn ystod y ddadl gyda Donald Trump roedd hi’n ymddangos fod Mr Biden, sy’n 81 yn stryglo gyda rhai o’r atebion.

Daw ei sylwadau ar ôl i gyngreswr o Texas ddweud wrtho y dylai gamu o’r neilltu. 

“Mae ganddo gyfle i annog cenhedlaeth newydd o arweinwyr ac yn eu plith gallwn ddewis ymgeisydd a fydd yn uno ein gwlad trwy broses agored, ddemocrataidd,” meddai’r Democrat Lloyd Doggett. 

“Dwi ddim wedi penderfynu datgan fy amheuon yn gyhoeddus ar chwarae bach a dyw hyn ddim mewn unrhyw ffordd yn lleihau fy mharch tuag at yr hyn mae’r Arlywydd Biden wedi cyflawni,” meddai. 

Fe wnaeth Mr Biden ddau drip gwahanol i Ewrop o fewn pythefnos i’w gilydd fis diwethaf. 

Mae ei oedran wedi bod yn daten boeth yn ystod yr etholiad gyda pholau piniwn yn dangos bod pleidleiswyr yn credu ei fod yn rhy hen i wneud y swydd yn effeithiol.

Ond mae Joe Biden wedi dweud y bydd yn parhau i frwydro i fod yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau. 

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.