
Rhybudd i deithwyr wrth i Dwnnel Hafren gau am bythefnos
Mae yna rybudd i deithwyr ddisgwyl oedi ar rhai trenau rhwng de Cymru a Lloegr am dros bythefnos wrth i beirianwyr ddechrau gwaith cynnal a chadw ar Dwnnel Hafren.
Bydd trenau rhwng de Cymru a Llundain yn cael eu dargyfeirio trwy Gaerloyw, gyda gwaith yn dechrau ar y trac yn y bont ddydd Mercher.
Mae hyn yn golygu bydd awr yn cael ei ychwanegu at deithiau o dde Cymru.
Mae Network Rail wedi rhybuddio pobl i wirio amseroedd teithio rhwng dydd Mercher a 19 Gorffennaf tra bod y gwaith yn digwydd.

Bydd gwasanaeth bws cyfyngedig ar gael rhwng Casnewydd, Cyffordd Twnnel Hafren a Bristol Parkway ond nid yn uniongyrchol i Bristol Temple Meads yn ystod y cyfnod yma.
Bydd dros 7km o drac ar hyd Twnnel Hafren yn cael ei ail-osod.
Hefyd bydd Network Rail yn symud 21,000 tunnell o domeni gwastraff sydd yn y twnnel.
Bydd y twnnel yn cau eto am fwy o waith ar benwythnos 27 a 28 Gorffennaf a 24 a 25 Awst.
Llun: Network Rail