Newyddion S4C

Neil Foden: Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad

02/07/2024

Neil Foden: Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad

"Y plant sydd y gwaethaf, maen nhw lot gwaeth na degawd yn ôl."

Y prifathro, y pedoffeil.

Roedd Neil Foden yn wyneb cyfarwydd ym myd addysg Cymru ac i weld a'i glywed ar y radio a'r teledu yn aml.

"Neil Foden, strategic headteacher of Ysgol Dyffryn Nantlle.

"Bydd rhaid neud toriadau."

Gymaint ei ddylanwad, cafodd ei ddewis i ofalu am ysgolion eraill.

Ond pan gafodd ei arestio am droseddau rhyw roedd o'n sioc i lawer.

Dyfarnodd y rheithgor ei fod yn euog o 19 cyhuddiad.

Felly sut lwyddodd i guddio ei gyfrinachau tywyll ac yntau'n ffigwr mor amlwg?

"Dw i'n llwyr ymwybodol o'r teimladau yng Ngwynedd, yn rhieni yn bobl ifanc, pawb."

Ddeudodd y barnwr fod ganddo bryderon mawr ynghylch prosesau Adran Addysg Gwynedd.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru rŵan yn cynnal adolygiad.

Dyma'r tro cyntaf ers arestio Foden i rywun ar ran Cyngor Gwynedd siarad yn gyhoeddus.

"Dw i'n gwybod be ydy'r teimladau, y dicter, y siom yn y dyn yma. 

"Dyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth wedi bradychu ffydd pobl." 

Mae Arweinydd Addysg Cabinet Cyngor Gwynedd yn falch fod yna adolygiad annibynnol ond y byddai'n croesawu ymchwiliad cyhoeddus hefyd. 

"Mae 'na gyfyngiadau ar y math yma o adolygiad oherwydd y math adolygiad ydy o. 

"Er enghraifft, 'sna'm modd gorfodi tystion na thystiolaeth a fuasai pobl wrth gwrs ddim yn cyfrannu ar lw. 

"Dyna'r math o adolygiad ydy o. 

"Efo mater mor ddifrifol â hyn, petai hi'n dod yn amlwg bod angen ymchwiliadau pellach a chyhoeddus fel achos yr athro John Owen petai Llywodraeth Cymru neu'r Comisiynydd Plant yn teimlo bod angen ymchwiliadau pellach na'r un sydd gynnon ni mi faswn i wrth gwrs yn croesawu hynny'n llwyr a'n dymuno hynny."

"Mae gymaint o'r achosion 'ma 'di bod. 

"'Dan ni'n cael ymchwiliadau, mae 'na wastad gwersi i'w dysgu. 

"Weithiau dw i'n poeni nad ydy'r gwersi hynny'n cael eu dysgu." 

Roedd Dr Mair Edwards yn lywodraethwr yn Ysgol Friars rhwng 2013 a 2016. 

Mae'n cofio teimlo ar bigau'r drain yng nghwmni Foden. 

"Petai rhywun yn deud rhywbeth nad oedd o'n licio roedd ei lygaid o'n caledu ac roedd o'n brychu braidd. 

"Roedd ei gefn yn mynd yn ôl ac o'n i'n meddwl, oce falle wna i ddim mynd ar y trywydd yna ar hyn o bryd." 

Felly, oedd 'na glychau rhybudd yn canu dros y blynyddoedd? Oedd, yn ôl nifer. 

Roedd Foden wedi'i gyhuddo o fwlio cydweithwyr yn y gorffennol a'i feirniadu mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth. 

Un gafodd ei fwlio ganddo oedd Simon Wilson o Lanberis. 

Mae ei ferch, Beca Wilson, yn dweud bod Foden wedi gwneud bywyd ei thad yn uffern ar ôl i'r athro godi pryderon am farciau arholiadau'n cael eu camgofnodi.

"Oedd o'n ddyn rili hapus a hwyl i fod o gwmpas. 

"A ie, na'th o newid." 

Cafodd Simon iawndal o £8,000 ac yn yr achos hwnnw deudodd y panel bod agwedd Foden yn bitw a dialgar. 

"Mae'n rhaid cael investigation ar Gwynedd Council a'r governors achos maen nhw'r un governors na'th rhoi vote of confidence iddo ar ol iddo gael ei ffeindio'n guilty o fwlio fy nhad. 

"Dydy hynna'm yn neud sens o gwbl. 

"Rhaid cael investigation o'r cylch bach yna oedd o gwmpas Foden." 

Doedd bod yng nghanol straeon dadleuol ddim yn poeni Foden a chan ei fod yn uwch-swyddog efo undeb athrawon NEU roedd newyddiadurwyr yn troi ato'n gyson am sylwadau. 

Fues i, fel llawer o'm cydweithwyr, draw yn Ysgol Friars yn ei holi sawl gwaith. 

Rhyfedd edrych ar y lluniau yna yn cyd-gerdded efo fo o wybod be 'dan ni'n gwybod rŵan. 

O'n ni'n mynd yna mor aml i'w holi. Oedd o'n fodlon bod ar y camera a'r sgrin. 

Mae gweld hwnna yn deimlad annifyr. 

Mae Mair hefyd yn ei chael hi'n anodd edrych yn ôl. 

Er iddi roi'r gorau i fod yn llywodraethwr cyn i droseddau Foden ddod i'r amlwg, mae hi wedi'i hysgwyd. 

"Roedd o'n sioc ac wedyn dros y misoedd wedyn fel oedd yr achos yn y llys, o'n i'n poeni fy mod i fel llywodraethwr oedd efo chyfrifoldeb dros amddiffyn plant heb wneud fy ngwaith yn iawn." 

Mae hynna'n amlwg yn... "Yndy - sori." 

Wrth gwrs Neil Foden ydy'r troseddwr ond mi fydd pobl Gwynedd trethdalwyr ac ati yn bwrw'r chwyddwydr ar Gyngor Gwynedd. 

Fyddan nhw isio gwybod sut bod hyn wedi gallu digwydd. 

"Dyna pam bod fi yn cadw meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliadau pellach. 

"Does dim byd pwysicach na mynd at wraidd be sy 'di digwydd fan hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.