Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn 'croesawu'r' penderfyniad i ohirio streic Tata Steel

TATA PORT TALBOT (PA)

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn “croesawu” penderfyniad undeb Unite i ohirio eu streic yn ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot.

Roedd y streic wedi ei threfnu ar gyfer 8 Gorffennaf dros gynlluniau'r cwmni i gael gwared â 2,800 o swyddi.

Yn dilyn y cyhoeddiad gwreiddiol am y streic, dywedodd Tata y byddai'n cymryd camau i gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot erbyn 7 Gorffennaf.

Yn wreiddiol roedd y cwmni wedi bwriadu cau un o'r ffwrneisi chwyth erbyn diwedd Mehefin a'r ail erbyn mis Medi. Roeddwn nhw wedi galw ar yr undeb i gefnu ar eu cynlluniau i weithredu'n ddiwydiannol.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Ynni, Jeremy Miles ei fod yn falch bod yr undeb wedi penderfynu peidio cynnal streic, gan “osgoi argyfwng.”

“Rwy’n falch bob pawb ynghlwm â’r penderfyniad wedi dod o hyd i ffordd ymlaen… fel bod modd i drafodaethau pwysig rhwng yr undebau a’r cwmni barhau.”

Ond ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn pryderu am “gyflymder” y broses wrth i Tata geisio cau’r ffwrneisi gan ddweud y dylai’r cwmni atal eu cynlluniau am y tro er mwyn osgoi colli swyddi. 

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd Sam Kurtz ei fod yn falch bod undeb Unite wedi gohirio’u streic gan ddweud y byddai ei blaid e hefyd yn croesawu rhagor o drafodaethau er mwyn diogelu swyddi yno. 

Ond heriodd y blaid Lafur yn San Steffan ynglŷn â’u cynllun ‘dur gwyrdd’ gwerth £3 biliwn, gan gwestiynu faint o’r arian hwnnw fyddai yn cael ei ddarparu i Bort Talbot. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.