Cyhuddo dyn o Ddolgellau o anafu a bod â chyllell yn ei feddiant
02/07/2024
Mae dyn 36 oed wedi ei gyhuddo, mewn cysylltiad â dau achos honedig o ymosod yn Nolgellau, Gwynedd ar 29 Mehefin.
Mae Brendon Lee Williams o Fryntirion, Dolgellau wedi ei gyhuddo o glwyfo yn fwriadol, bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a thagu yn fwriadol.
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandudno fore Mawrth, ac mae e wedi ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 5 Awst.