Gwahardd dyn o bob tŷ tafarn ar Ynys Môn
02/07/2024
Mae dyn wedi cael ei wahardd rhag mynd i unrhyw dŷ tafarn ar Ynys Môn wedi iddo greu helynt yn Llangefni.
Mae Gareth Gadsby wedi cael ei wahardd rhag mynd i mewn i unrhyw eiddo trwyddedig, gan gynnwys tafarndai a siopau sy'n gwerthu alcohol ar yr ynys.
Ar 24 Mehefin, fe wnaeth swyddogion o Heddlu'r Gogledd ymateb i adroddiadau fod dyn meddw yn achosi aflonyddwch yng nghanol tref Llangefni.
Cafodd Mr Gadsby ei arestio ar amheuaeth o dorri ei Orchymyn Ymddygiad Troseddol yn sgil ei ymddygiad meddw.
Fe gafodd ei gyhuddo a'i anfon i Lys Llandudno.
Yno fe'i cafwyd yn euog a'i wahardd rhag mynd i unrhyw dafarn neu leoliad sy'n gwerthu alcohol ar yr ynys.