Cristiano Ronaldo yn ei ddagrau wrth chwarae i Bortiwgal yn Euro 2024
Roedd un o sêr pêl-droed mwya'r byd, Cristiano Ronaldo, yn ei ddagrau wrth chwarae i Bortiwgal yn Euro 2024 nos Lun.
Dechreuodd Ronaldo, 39, grio ar ôl methu cic o'r smotyn yn amser ychwanegol y gêm yn erbyn Slofenia yn rownd 16 olaf y gystadleuaeth.
Ond fe lwyddodd i sgorio o'r smotyn 15 munud yn ddiweddarach, gyda Phortiwgal yn ennill y gêm o giciau o'r smotyn yn y diwedd.
Er ei fod wedi ergydio 20 gwaith yn y gystadleuaeth, nid yw wedi sgorio eto heblaw am gic o'r smotyn, ac roedd ei emosiynau a'i rwystredigaeth yn amlwg yn y gêm nos Lun.
Dywedodd Ronaldo wrth y wasg Portiwgaleg ar ôl y gêm mai dyma fyddai ei Ewros olaf.
Cyn mynd yn ddagreuol eto, dywedodd: "Mae hyd yn oed y bobl gryfaf yn cael dyddiau gwael. Roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelod un pan roedd y tîm fy angen i fwyaf.
"Mae tristwch ar y dechrau yn orfoledd ar y diwedd. Dyna beth ydi pêl-droed. Dwi'n teimlo yn drist ac yn hapus ar yr un pryd."
Llun: Wochit