Donald Trump eisiau i'w euogfarnau gael eu diystyru
Mae cyfreithwyr Donald Trump wedi gofyn i euogfarnau y cyn-arlywydd i gael eu rhoi o'r neilltu yn ogystal ag oedi ei ddedfrydu yn ddiweddarach yn y mis, yn ôl adroddiadau.
Mae llythyr i'r barnwr yn Efrog Newydd sy'n gyfrifol am yr achos yn cyfeirio at ddyfarniad y Goruchaf Lys ddydd Llun sy'n rhoi imiwnedd i Trump rhag erlyniad am weithredoedd swyddogol tra'r oedd yn arlywydd.
Ym mis Mai, fe wnaeth rheithgor mewn achos cyfreithiol hanesyddol yn Efrog Newydd benderfynu ei fod yn euog o 34 cyhuddiad troseddol.
Roedd Trump wedi ei gyhuddo o guddio taliadau gan ei gyn-gyfreithiwr gyda'r bwriad o dawelu honiadau'r cyn-seren bornograffig Stormy Daniels ychydig cyn etholiad arlywyddol y wlad yn 2016.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf.
Dywedodd Trump fod dyfarniad y Goruchaf Lys ddydd Llun yn 'fuddugoliaeth fawr' ar gyfer democratiaeth.
Daethant i'r casgliad fod arlywydd yn imiwn ar gyfer 'gweithredoedd swyddogol' ond ddim yn imiwn ar gyfer 'gweithredoedd answyddogol'.
Roedd y dyfarniad yn ymwneud ag achos gwahanol yn erbyn Trump - gydag adroddiadau ei fod wedi ceisio gwrthdroi canlyniadau etholiad arlywyddol 2020 yn anghyfreithlon yn erbyn Joe Biden.
Wrth ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys, dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod yn gosod 'cynsail peryglus' a oedd yn 'tanseilio' y gyfraith yn America.