Osian Roberts yn cyhoeddi nad yw'n ystyried swydd Rheolwr Cymru
Mae Osian Roberts, un o'r ffefrynnau i olynu Rob Page fel Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi nad yw'n ystyried y rôl.
Ar ei gyfrif X, dywedodd ei fod yn diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am "fynegi diddordeb" ynddo.
Fis Mai, sicrhaodd Tîm Pêl-droed Como 1907 o dan arweiniad Osian Roberts ddyrchafiad i brif adran Yr Eidal, Serie A.
"Fel Cymro angerddol a balch, byddem wrth fy modd yn dod yn Rheolwr Cymru un diwrnod," cyhoeddodd nos Lun.
"Ar hyn o bryd, rydw i ar daith ryfeddol gyda Como 1907 gan eu helpu a'u harwain at ddyrchafiad haneseddol i Serie A.
"Rydw i wedi ymrwymo i'r clwb anhygoel hwn a'n prosiect cyffrous tan o leiaf 2026, ac rwy'n fythol ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u ffydd yndda i."
Ychwanegodd ei fod yn dymuno'n dda i dîm Cymru.
"Rydw i'n dymuno pob llwyddiant i dîm cenedlaethol Cymru, wrth iddyn nhw ddechrau ar bennod gyffrous arall."
Ac roedd ganddo neges i gefnogwyr y Wal Goch, gyda chynifer o'r aelodau yn awyddus iddo reoli Cymru.
"I gefnogwyr y Wal Goch, a holl gefnogwyr Cymru, yr ydw i wedi mynd trwy gymaint gyda hwy, y dagrau a'r llawenydd, rydw i eisiau diolch i chi yn ddiffuant am y gefnogaeth yr ydw i wastad wedi ei chael gennych, yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf. DIOLCH"
Y gred yw y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn siarad â sawl ymgeisydd posibl yr wythnos hon, wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i olynydd Rob Page, a gollodd ei swydd wedi'r golled drom yn erbyn Slofacia fis Mehefin.
Mae dyfalu bod Craig Bellamy a'r Ffrancwr Thierry Henry ymhlith y rhai sydd ar y rhestr honno, ond dyw'r gymdeithas bêl-droed dim wedi gwneud sylw.
Inline Tweet: https://twitter.com/Osian_Roberts/status/1807841974021677158