Newyddion S4C

Syr Alan Bates, Noel Thomas a Manon Steffan Ros i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor

Manon Steffan Ros, Syr Alan Bates, Noel Thomas

Mae’r cyn is-bostfeistri Syr Alan Bates a Noel Thomas, a’r awdur Manon Steffan Ros ymhlith y ffigyrau cyhoeddus a fydd yn derbyn graddau er anrhydedd gan Brifysgol Bangor eleni. 

Daw wrth i’r brifysgol dathlu 140 o flynyddoedd ers ei sefydliad, gyda’r seremonïau graddio yn cael eu cynnal yn neuadd hanesyddol Prichard-Jones yr wythnos nesaf. 

Bydd Syr Alan Bates o Lanelian, yng Nghonwy, a Noel Thomas o'r Gaerwen ar Ynys Môn yn cael eu hanrhydeddu yn dilyn eu hymdrechion dros y ddau ddegawd diwethaf i sicrhau cyfiawnder i is-bostfeistri ar hyd a lled y wlad, wedi sgandal Swyddfa’r Post a meddalwedd diffygiol Horizon. 

Fe ddaeth gwaith ymgyrchu Syr Alan yn destun trafodaeth eang wedi i gyfres deledu ITV, Mr Bates vs the Post Office, ddilyn ei frwydr bersonol i fynd at wraidd cannoedd o gyhuddiadau o ladrata yn erbyn is-bostfeistri ledled y DU. 

Roedd Noel Thomas ymhlith y cannoedd a gafodd eu dyfarnu'n euog ar gam. Apeliodd yn llwyddiannus yn erbyn ei euogfarn ac ers hynny mae wedi adrodd ei hanes er mwyn 'sicrhau cyfiawnder' i bobl eraill sydd wedi dioddef. 

A hithau wedi chwarae rhan “arwyddocaol” yn y byd llenyddol, mae’r awdur Manon Steffan Ros yn cael ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i’r Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau. 

Y llynedd, cafodd Medal Yoto Carnegie ei dyfarnu i’r awdur am ei nofel 'The Blue Book of Nebo', sef cyfieithiad ganddi o'i nofel, Llyfr Glas Nebo. Mae eisoes wedi ennill tair gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn ogystal â Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2018.

Yn cael eu hanrhydeddu hefyd bydd :

Linda Gittins MBE a gydsefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn ym 1981, gan gynhyrchu rhai o sioeau theatr gorau a mwyaf eiconig Cymru.

Joan Edwards OBE sy'n gyn-fyfyrwraig a biolegydd y môr a Phennaeth Moroedd Byw yn yr Ymddiriedolaethau Natur.

Mark Williams PLY - y cyn nofiwr paralympaidd drodd syniad am gloriau coesau prosthetig lliwgar yn fusnes arloesol. 

Dr Susan Chomba, sef un o’r graddedigion Meistr Ewropeaidd cyntaf erioed i raddio mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy. 

Yr Athro E Wynne Jones OBE, cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams. 

Yr Athro John Phillip Sumpter OBE a enillodd ei PhD mewn Sŵoleg Forol o Brifysgol Bangor. Mae bellach yn arweinydd byd-eang yn ei faes, gan godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd amgylcheddol.

A Carl Foulkes QPM, a oedd yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru rhwng 2018 a 2022 ac arweinydd plismona cenedlaethol Cymru yn ystod Covid. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.