Newyddion S4C

'Ysbrydoledig': Creu llwybr o amgylch mynwent i adfywio straeon tu hwnt i’r bedd

'Ysbrydoledig': Creu llwybr o amgylch mynwent i adfywio straeon tu hwnt i’r bedd

Mae eglwys hynafol yn Sir Ddinbych wedi creu llwybr newydd o amgylch y fynwent er mwyn dod â rhai o’r straeon tu hwnt i’r bedd.

Mae Eglwys Llantysilio ar gyrion tref Llangollen wedi rhoi’r cyfle i ymwelwyr gael clywed hanesion am fywydau’r bobl sydd wedi eu claddu yno.

“Mae ‘na fwy na cherrig yma, mae ‘na bobl sydd ‘di byw bywydau yr un fath â ni,” meddai Ceinwen Morris, sef clerc yr eglwys.

Yn flaenorol, nid oedd modd cyrraedd rhannau o’r fynwent ond mae’r llwybr yn galluogi pobl i ymweld â’r wyth o gerrig beddi sydd yn rhan o'r ymchwil yn lleol.

Mae'r wybodaeth am y cerrig beddi hyn ar gael mewn taflenni yn yr eglwys – a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Adfywio straeon Cymru

Daeth egin y syniad i greu llwybr o amgylch y fynwent gan hanesydd o Amgueddfa Llangollen.

Roedd David Crane wedi bod yn gweithio ar brosiect a oedd yn ymwneud â thynnu llun o bob carreg fedd er mwyn creu llyfryn a fyddai’n helpu pobl i’w lleoli.

Yn dilyn hynny, roedd yn awyddus i gydweithio â'r eglwys er mwyn adrodd hanes rhai o’r bobl sydd wedi eu claddu yno.

“Mae'n bwysig dod â nhw’n fyw eto,” meddai Ms Morris, sydd wedi rhedeg yr eglwys am bron i ddau ddegawd. “Os nawn ni farw heb ddweud y straeon ‘ma, mae’r straeon yn marw efo ni - mae’n bwysig cadw straeon Cymru i fynd.”

Image
Ceinwen Morris
Mae Ceinwen Morris wedi bod yn rhedeg Eglwys Llantysilio am bron i ddau ddegawd

Ymysg y rhai sy’n cael eu coffáu, mae rhai o gewri’r ardal fel Exuperious Pickering, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r Bont Gadwyn yn Llantysilio yn 1817. 

Ond roedd Ms Morris hefyd yn awyddus i adrodd straeon “bobl gyffredin”.

“Dw i’n meddwl fod pobl gyffredin lot fwy diddorol na’r bobl fawr ‘ma,” meddai.

Yn eu plith mae plant Robert a Catherine Williams o Tan-y-Cyt, Pentrefelin. Mae’r un lechen yn nodi bedd y pum plentyn, ac nid oes enwau na dyddiadau.

Er bod rhai o’r straeon yn drist, mae Ms Morris yn ffyddiog bod gan bobl ddiddordeb ym mywydau’r meirw – yn enwedig wrth i bobl fynd yn hŷn.

“Mae ‘na lawer o bobl efo hen deidiau a neiniau wedi cael eu claddu yma, ac maen nhw wedi symud i ffwrdd,” meddai. “Ond fel mae pobl yn mynd yn hŷn, mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn eu bywydau eu hunain a bywydau eu neiniau a’u teidiau.”

Ychwanegodd Ms Morris bod y genhedlaeth iau hefyd yn ymweld â'r fynwent.

“Mae lot o bobl ifanc yn dod yma, ac mae gen i obaith y bydd yr eglwys yn dal i fynd,” meddai.

Hwb ychwanegol i’r eglwys

Mae Eglwys Llantysilio, sydd wedi ei lleoli mewn ardal gadwraeth ar lannau Afon Dyfrdwy, wedi bod yn addoldy ers y chweched ganrif. 

Yn ôl y sôn, roedd y bardd Robert Browning, a ysgrifennodd y gerdd enwog My Last Duchess, wedi addoli yn yr eglwys am ddeng wythnos yn 1886.

Ac mae'r eglwys eisoes yn denu hyd at 10,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ond gobaith Ms Morris yw y bydd y llwybr newydd yn ymestyn apêl yr eglwys yn ehangach. 

“Be ‘da ni’n gobeithio ‘neud ydi tyfu’r eglwys,” meddai. “Mae ‘na fwy o bobl yn dod yma yn ystod yr wythnos na sydd ‘na ar y Sul, ond mae’r esgob yn gofyn i ni o hyd i dyfu’r eglwys. "Ac fel mae’r byd yn mynd rŵan, ‘da ni isho rhywle efo heddwch.”

Image
Eglwys Llantysilio
Mae Eglwys Llantysilio yn denu hyd at 10,000 o ymwelwyr y flwyddyn

Yn ogystal, mae denu ymwelwyr yn holl bwysig i ariannu’r eglwys.

“Pan ddaw ymwelwyr, maen nhw’n rhoi llawer o arian… maen nhw wedi rhoi miloedd,” meddai.

“‘Da ni’n ddiolchgar am bob ceiniog gawn ni i gadw’r eglwys fach 'ma i fynd.”

'Ysbrydoledig'

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru bod y prosiect yn “ysbrydoledig”. 

“Mae ein heglwysi yn adrodd hanesion ein cymunedau. Ers cenedlaethau, mae pobl wedi ymgasglu yno ar yr adegau pwysicaf yn eu bywydau, boed mewn llawenydd neu mewn tristwch. Maen nhw'n lleoedd sy'n perthyn i ni i gyd.

“Mae’r prosiect ysbrydoledig hwn yn Eglwys Llantysilio yn ffordd wych i ddarganfod a dathlu’r straeon hynny. 

"Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl archwilio cynefin naturiol unigryw’r fynwent, sydd yn gartref i flodau, trychfilod, adar a mamaliaid bach ers dros 30 mlynedd.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi creu’r llwybr, yn enwedig i’n gwirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint o’u hamser a’u doniau i’r lle hynod hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.