Sir Gâr yn dod i'r brig yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc
Sir Gâr yw pencampwyr Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc 2025, wedi diwrnod llawn o gystadlu yn Theatr Hafren, y Drenewydd eleni, wrth i Faldwyn gynnal yr ŵyl.
Cymerodd dros 800 o gystadleuwyr o 12 ffederasiwn sirol ran mewn ystod eang o gystadlaethau.
A Sir Gâr sicrhaodd y nifer uchaf o bwyntiau dros yr holl gystadlaethau llwyfan.
Daeth Sir Benfro yn ail, ac roedd CFfI Ceredigion a CFfI Maldwyn yn gydradd drydydd.
Ac roedd achos dathlu i ffederasiwn Ynys Môn a Sir Benfro nos Sadwrn hefyd, wrth i Mared Fflur Jones o CFfI Rhosybol ennill y Gadair, a Fflur Haf James o CFfI Eglwyswrw gipio’r Goron.
Y Gadair a'r Goron
Nid dyma'r tro cyntaf i Mared Fflur Jones ddod i’r brig yn Eisteddfod CFfI Cymru, wedi iddi gael ei chadeirio am ei cherdd y llynedd, a hithau hefyd wedi ennill y Goron yn 2022 .
Yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Glwyd yn Llanelwy.
Mae enillydd y Goron, Fflur Haf James yn hanu o Lantwd, Sir Benfro ac yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Ffrangeg.
Grug Muse, oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Gadair, a’r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn beirniadu’r Goron.
Cafodd y gadair ei llunio gan Paul Philips, cyn-aelod o CFfI Aberriw, a David Dart a Robi Wood o CFfI Cegidfa oedd dylunwyr y Goron.
Fe ddaeth Llywela Edwards o CFfI Clwyd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair, gydag Eluned Hughes, Eryri ac Eiry Williams o CFfI Ceredigion yn drydydd.
Mali Evans o CFfI Ceredigion oedd yn ail yng nghystadleuaeth y Goron a Carwyn Jones o CFfI Ynys Môn ddaeth yn drydydd.
Cafodd unigolion hefyd eu gwobrwyo am serennu yn eu cystadlaethau, a bu'n ddiwrnod llwyddiannus iawn i Daniel O'Callaghan, CFfI Penybont, Sir Gâr, wrth iddo gipio tri chwpan.
Cystadleuaeth y Côr Cymysg oedd penllanw'r cystadlu, a Ffederasiwn Meirionnydd ddaeth i’r brig eleni, gyda CFfI Sir Gâr yn ail a CFfI Maldwyn yn drydydd.
Ffederasiwn Ceredigion gipiodd y tlws yn yr adran gwaith cartref.