Clirio'r llanast wedi difrod storm Claudia
Clirio'r llanast wedi difrod storm Claudia
Parhau mae'r gwaith o glirio'r llanast wedi i storm Claudia daro Cymru nos Wener, gyda Threfynwy a'r Fenni yn y de-ddwyrain ymhlith yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf.
Roedd pobl yn dal i gael eu hachub o'u cartrefi nos Sadwrn yn y ddwy dref yn Sir Fynwy. Ac mae busnesau hefyd wedi bod o dan ddŵr, gyda modfeddi o law yn achosi anhrefn ar y brif stryd siopa yn Nhrefynwy.
Mae pedwar rhybudd llifogydd difrifol yn dal mewn grym fore Sul, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru - tri ar Afon Mynyw ac un ar afon Gwy yn Nhrefynwy.
Dywedodd Richard Mann sy'n byw yn lleol nad oedd yn medru credu yr hyn a welodd: "Mae yn ofnadwy. Dwi'n byw 'ma nawr ers 7 mlynedd. Ond sai byth wedi weld o fel hyn o'r blaen.
"Ma llawer o busnesau wedi cael dŵr i mewn a mae e jest yn edrych yn hollol ofnadwy," meddai.
Bu'n rhaid i Bethan Turner a'i theulu gael eu hachub o'u car wrth deithio nôl i'r Fenni nos Wener. Roedd yn brofiad cwbl frawychus, meddai: "Odd e bron tuag at y ffenest. Ar y ffôn, ro'n nhw'n dweud - 'agorwch y ffenest, a cymerwch eich belts i ffwrdd, peidiwch gadael y car.'
"Odd y dŵr mor cryf. Odd e'n ofni fi fydde raid iddo fe glywed pobl yn marw dros y ffôn "
Wrth gyhoeddi digwyddiad difrifol yn yr ardal, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru iddyn nhw ymdrin ag o leiaf 82 o achosion ar hyd a lled Sir Fynwy.
'Pwysau eithriadol'
Fore Sul, rhybuddiodd undeb y frigâd dân, yr FBU bod y gwasanaeth o dan "bwysau eithriadol" oherwydd y llifogydd yng Nghymru a Lloegr, gan nodi bod "blynyddoedd o doriadau a llai o adnoddau" yn ychwanegu at y straen yn ystod tywydd garw.
Dywedodd Steve Wright, ysgrifennydd cyffredinol yr FBU: "Mae criwiau tân yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gweithio'n galed gydol y nos a dydd yn ceisio delio â'r llifogydd difrifol a gwarchod cymunedau.
"Mae graddfa'r ymateb yn Nhrefynwy a mannau eraill yn profi unwaith eto pa mor allweddol yw'n gwasanaeth, pan fo argyfwng yn taro.
"Ond mae'n amlwg hefyd fod gwasanaethau o dan bwysau eithriadol. Mae llai o ddiffoddwyr a llai o adnoddau na'r hyn ddylai fod," meddai.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cododd lefel Afon Mynwy i'w lefel uchaf erioed, yn uwch na'r hyn a gafodd ei gofnodi yno adeg storm Dennis yn 2020 a Storm Bert y llynedd.
Mae tîm o wirfoddolwyr y Groes Goch wedi bod yn rhoi cymorth i bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi mewn canolfan hamdden yn ardal Trefynwy.
Dywedodd AS y Ceidwadwyr dros Drefynwy yn y Senedd, Peter Fox, na welodd lifogydd o’r fath yn yr ardal ers 40 mlynedd.
“Fe fydd y dyddiau, wythnosau a misoedd nesaf yn heriol iawn, ac fe fydda i a fy swyddfa yn barod i helpu ym mha bynnag ffordd allwn ni,” meddai.
'Torcalonnus'
Mae gwleidyddion Plaid Cymru sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd wedi galw am gymorth ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd.
Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid yn y Senedd, Delyth Jewell AS y bydd hi'n gofyn cwestiwn i Lywodraeth Cymru: "Mae'n rhaid ei bod hi'n dorcalonnus i bobl weld eu cartrefi a'u busnesau wedi eu difrodi," meddai.
Achsodd Storm Claudia ddifrod sylweddol mewn gwledydd eraill hefyd. Bu farw dynes o Brydain tra ar ei gwyliau yn Albufeira ym Mhortiwgal.
Yn ôl adroddiadau, roedd hi yn 85 oed ac yn aros mewn gwersyll gwyliau.
Cafodd 28 o bobl eu hanafu mewn gwesty gerllaw. Mae dau ohonyn nhw yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, a chafodd cyrff cwpl oedrannus eu darganfod yn eu cartref a oedd o dan ddŵr ger Lisbon.