'Disgwyl mwy': Siom er gwaethaf buddugoliaeth Cymru yn erbyn Japan

Steve Tandy/Cymru

Mae prif hyfforddwr rygbi'r tîm cenedlaethol, Steve Tandy, wedi dweud ei fod yn “siomedig” – er gwaethaf ei falchder yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Japan yng Nghaerdydd nos Sadwrn. 

Fe lwyddodd Cymru i guro eu gwrthwynebwyr o 23-23 yn Stadiwm Principality wedi cic cosb gan Jarrod Evans yn eiliadau ola’r gem. 

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru ennill gem gartref ers 2023, ond mae Steve Tandy yn dweud bod yna beth ffordd i fynd cyn dathlu. 

“Dwi’n siomedig gydag elfennau o’n perfformiad,” meddai wedi’r gêm. 

“Roedden ni’n chwilio am berfformiad gwell o gymharu â’r wythnos diwethaf a dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael hynny.” 

Fe gollodd Cymru o 28-52 yn erbyn Yr Ariannin y penwythnos diwethaf. 

Ychwanegodd: “Roedd yna rai elfennau [cadarnhaol] o’r gêm… fel y ffordd wnaethon ni reoli’r gêm tua’r diwedd, ond dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi llwyddo i fanteisio ar eu cardiau melyn nhw. 

“Dwi’n caru’r grŵp yma, mae’r grŵp yma’n class i weithio ‘da a dwi yn gwybod bod ‘na ddiffyg profiad. 

“Ond ‘da ni’n disgwyl mwy.”  

'Rhyddhad'

Ond er bod yna le i wella, mae Steve Tandy hefyd yn dweud bod yna deimlad o “ryddhad” ar ôl llwyddo i ennill gem. 

“’Da ni heb ennill ryw lawer, un mewn 20 gem cyn hyn, felly mae’n grêt ein bod ni wedi cael buddugoliaeth – ond yn y bôn ‘da ni’n chwilio am berfformiad gwell. 

“Mae wastad yn well i adlewyrchu yn dilyn buddugoliaeth yn hytrach ‘na cholled 

“Ac eto, clod enfawr i Jarrod am ddod mewn am ychydig o funudau a llwyddo gyda’i gic, mae hynny’n anghredadwy. 

“Mae ‘na deimlad o ryddhad a balchder gan ein bod ni wedi ennill. 

“Pan ‘da ni’n dod mewn bore ddydd Llun, ‘da ni pob tro yn ystyried a oeddem ni’n well ‘na’r wythnos gynt, ac mae’n debyg doedden ni ddim.” 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.