Newyddion S4C

‘Tensiynau’ i’w disgwyl pe bai Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol

Y Byd yn ei Le

‘Tensiynau’ i’w disgwyl pe bai Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol

Mae “tensiynau” i’w disgwyl rhwng Llywodraeth San Steffan a Senedd Cymru os ydy’r Blaid Lafur yn ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl arbenigwr gwleidyddol.

Wrth siarad ar raglen wleidyddol, Y Byd yn ei Le, dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Mae Llafur [yng Nghymru] dros y blynyddoedd wedi bod yn dweud "os cawn ni Lafur mewn grym yn y ddau le mi fydd pethau yn haws."

“Y gwir amdani ydy, pan oedd Llafur mewn grym yn Llundain ac yng Nghaerdydd y tro diwethaf, roedd yna lot o densiynau o dan yr wyneb.”

Daw’r sylwadau ddiwrnodau cyn yr Etholiad Cyffredinol, lle mae disgwyl i’r Blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol.

Esboniodd Yr Athro Richard Wyn Jones y gallai'r berthynas rhwng llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur San Steffan effeithio ar lwyddiant y blaid Lafur yng Nghymru yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.

Dywedodd: “Mae ganddoch chi Brif Weinidog yng Nghymru sydd yn amlwg mewn sefyllfa wan ac Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn disgwyl mai eu tro nhw ydyw i gael y sylw a rhedeg y sioe.

“Dwi’n rhagweld lot o densiynau yn deillio o hynny a phroblemau etholiadol i Lafur mewn cwta dwy flynedd.”

Mae model MRP diweddaraf YouGov yn darogan y bydd Llafur yn ennill mwyafrif mawr, gyda 425 o seddi ar 4 Gorffennaf 2024, ond mae’r Athro Richard Wyn Jones yn cwestiynu “hygrededd y system wleidyddol”.

Dywedodd: “Mae gennym ni system etholiadol sydd yn chwyddo cynrychiolaeth y blaid fwyaf ac mae’n ymddangos bod Llafur efallai efo ddim llawer mwy na 40% - efallai hyd yn oed yn llai na 40%-  o’r bleidlais, yn mynd i gael mwyafrif enfawr.”

Yn ôl yr Athro Jones, byddai’n “broblematig” os yw’r senedd yn San Steffan “yn cael ei dominyddu gan un blaid, ond bod hynny ddim yn adlewyrchu barn y boblogaeth drwyddi draw.”

Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar nos Lun, 1 Gorffennaf am 20:00 ar S4C.

Llun: Y Byd yn ei Le

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.