Newyddion S4C

Neil Foden: Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad

Newyddion S4C

Neil Foden: Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad

Wrth i Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol ddechrau i weld pa wersi sydd i’w dysgu yn dilyn achos Neil Foden, mae aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth Newyddion S4C ei bod yn poeni am ‘gyfyngiadau’ adolygiad o’r fath.

Mae Beca Brown yn aelod cabinet dros Addysg ers 2022 ac yn dweud ei bod yn "llwyr groesawu yr adolygiad" ond ei bod hi’n cadw "meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliada pellach."

Dyma’r tro cynta ers arestio Foden i rywun siarad yn gyhoeddus ar ran Cyngor Gwynedd.

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am waith yr adolygiad ac mae datganiad ganddyn nhw’n egluro nad ydi’r adolygiad yn rhan o "brosesau troseddol/ymchwilio" ac mae’r bwriad ydi  "nodi ‘pa wersi y gellir eu dysgu."

Fel rhan o’r adolygiad mi fydd cadeirydd annibynnol yn trafod gyda phanel o uwch reolwyr o wahanol asiantaethau sy’n ymwneud â’r achos.

Bydd disgwyl i’r panel "gasglu gwybodaeth" er mwyn creu "llinell amser o ddigwyddiadau."

Mewn sgwrs arbennig â Newyddion S4C mae Beca Brown, cynghorydd Llanrug, yn rhannu ei phryderon am gyfyngiadau yr adolygiad presennol.

"Does ’na ddim modd gorfodi tystion, gorfodi tystiolaeth a fasa pobl ddim yn cyfrannu ar lw.

"Ond mi faswn i yn disgwyl wrth gwrs y bydd pawb sy’n cael eu galw, pawb sy’n cael eu gwahodd i gyfrannu i’r adolygiad yn gneud hynny yn llawn ac yn llwyr gydweithredol."

"Ystyried mwy nag un ymchwiliad"

Mae hi’n dweud fod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad, "un cyhoeddus o bosib."  

"Petai Llywodraeth Cymru neu Comisiynydd y Plant neu unrhyw un arall yn teimlo bod angen ymchwiliada pellach, ehangach na’r un sydd ganddo ni rŵan, mi faswn i wrth gwrs yn croesawu hynny’n llwyr ac yn dymuno hynny i fod yn onest."

Mae Cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru Jenny Williams, yn dweud mewn datganiad fod yr adolygiad yn "gyfle pwysig i adolygwyr annibynnol gasglu a dadansoddi’r holl wybodaeth."

"Bydd yr adroddiad hwn yn amlygu’r pethau a ddysgwyd o’r achos, meysydd o arferion da ac argymhellion i wella ymarfer diogelu i’r dyfodol. Mae’n gam hanfodol i ddiogelu plant diamddiffyn yng Ngogledd Cymru."

Daeth i’r amlwg yn ystod achos Foden fod nifer o bobl wedi codi pryderon ynglyn â’i agosatrwydd â Phlentyn E yn 2019. 

Cafodd rhain eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson mewn e-bost. 

Dwedodd o wrth y llys ei fod wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles ac wedi rhannu manylion yr achos. 

Ond cafodd wybod, nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd unrhyw gyhuddiad penodol wedi cael ei wneud. 

Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden gan ei atgoffa“o'r angen i gadw pellter addas” gyda phobl ifanc. 

Esboniodd fod Foden wedi dweud wrtho fod y pryderon yn ‘or-ddramatig’ ac fe fynnodd nad oedd unrhyw beth amrhiodol wedi digwydd. 

Dywedodd wrth y llys nad oedd ganddo gofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau hyn oni bai am yr e-bost gwreiddiol. 

Mi ddywedodd y barnwr Rhys Rowands, fod hynny yn “bryder mawr.”

"Dwi’n cymryd ei eiriau fo efo’r difrifoldeb mwya." meddai Beca Brown.

"Doeddwn i ddim yma yn 2019, dwi’n ddeilydd portfolio ers 2022 a dwi yma rŵan."

"Dwi’n derbyn fod y chwyddwydr yn mynd i fod bob man mae o angen bod."

Gyda Neil Foden bellach dan glo, mae nifer wedi bod yn gofyn sut oedd un o benaethiaid amlyca Cymru wedi gallu cyflawni troseddau o’r fath.

"Does ’na ddim byd pwysicach na mynd at wraidd beth sydd wedi digwydd fan hyn," meddai Beca Brown.

"Mae’r merched a phob un rhiant yng Ngwynedd yn haeddu gwybod fod pob carreg yn cael ei throi.

"Dw i’n llwyr ymwybodol o’r teimlada sydd allan ‘na yng Ngwynedd, yn rieni yn bobl ifanc, pawb, achos fel mae’r dywediad yn mynd, mae’n cymryd pentra i fagu plentyn.

"Dallt y teimlada o ddicter a siom" 

"Mae pawb yn teimlo y cyfrifoldeb a’r gofal ’na am blant a does ’na ddim cyfrifoldeb mwy na diogelwch a lles ein pobl ifanc ni.

"Dwi’n dallt y teimlada yna o ddicter a siom dwys achos dwi’n rhannu nhw fy hun."

Wrth gyfeirio at y dioddefwyr, mae Beca Brown yn awyddus i bawb sydd ynghlwm â’r adolygiad "gadw’r merched yn mlaenau ein meddylia."

Mae hi’n canmol "eu penderfyniad" a’u "gwytnwch" wrth roi eu tystiolaeth i’r llys.

"Faswn i’n licio diolch iddyn nhw am eu dewrder "gan ddweud fod Cyngor Gwynedd yn "cyd-sefyll efo nhw.

"Ac ar unrhyw bwynt yn eu bywydau nhw os fydd hyn yn bwrw cysgod drostyn nhw bo ni wastad yn sefyll efo nhw ac yn edmygu eu dewrder nhw yn ddwys ofnadwy."

Mae disgwyl i’r adolygiad gael ei gynnal am dros 6 mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.