Newyddion S4C

Undeb Unite yn gohirio streic yn ffatri Tata Steel

Undeb Unite yn gohirio streic yn ffatri Tata Steel

Mae undeb Unite wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio eu streic yn ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot.

Roedd y streic wedi ei threfnu ar gyfer 8 Gorffennaf dros gynlluniau'r cwmni i gael gwared â 2,800 o swyddi.

Yn dilyn y cyhoeddiad am y streic, roedd Tata wedi dweud y byddai'n cymryd camau i gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot erbyn 7 Gorffennaf.

Yn wreiddiol roedd y cwmni wedi bwriadu cau un o'r ffwrneisi chwyth erbyn diwedd Mehefin a'r ail erbyn mis Medi.

Roedd Tata wedi galw ar yr undeb i gefnu ar eu cynlluniau i weithredu'n ddiwydiannol.

Mae undebau Community a’r GMB hefyd wedi galw ar Tata i newid eu cynlluniau, ond nid ydyn nhw wedi galw am weithredu diwydiannol.

'Ailddechrau trafodaethau'

Dywedodd Alun Davies, Swyddog Cymunedol Community: “Gyda miloedd o swyddi yn y fantol, rydym yn croesawu penderfyniad Unite i dynnu eu streic yn ôl a dychwelyd o amgylch y bwrdd gyda’r undebau dur.

“Cadarnhaodd Tata, pe bai’r streic yn cael ei gohirio, eu bod yn barod i ailddechrau trafodaethau ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth posib trwy’r Pwyllgor Dur Aml-Undeb sy’n cael ei gadeirio gan Community.

“Y gwir yw na wnaeth Tata erioed gerdded i ffwrdd o’r trafodaethau hynny, ac yn ein cyfarfod diwethaf ar 22 Mai cytunodd pob undeb i gloi’r trafodaethau a rhoi’r canlyniad i’n haelodau.

“Bydd y gymuned yn croesawu ailddechrau’r trafodaethau hynny, ond mae’n ddrwg gennym nad oes dim cynnydd wedi’i wneud ers 22 Mai.”

Mae disgwyl i'r ffwrnais chwyth gyntaf gael ei chau ym Mhort Talbot ddydd Iau a'r ail ddiwedd mis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.