Glastonbury: Cwch mudwyr yn y dorf yn 'waith celf Banksy'
Mae'n ymddangos bod yr artist Bansky wedi cadarnhau mai ef oedd yn gyfrifol am y gwaith celf yn portreadu cwch o fudwyr yn y dorf yn Glastonbury dros y penwythnos.
Roedd y cwch bach wedi ei lenwi gyda dymis mewn siacedi oren i edrych fel mudwyr oedd yn ceisio croesi'r Sianel.
Cafodd y cwch ei godi uwchben y dorf a oedd yn gwylio'r band Idles y chwarae ar lwyfan The Other Stage yn Ffarm Worthy nos Wener.
Ddydd Sul, cyhoeddodd Banksy fideo o'r cwch yn hwylio drwy'r dorf ar ei gyfrif Instagram.
Yn gynharach yn y diwrnod, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly: "Mae cychod bychain sy'n croesi yn hynod o beryglus ac wedi cymryd bywydau gormod o bobl.
"Mae'r ffaith fod pobl yn yr ŵyl yn dathlu gweithredoedd smyglwyr yn ofnadwy."
Yn ôl adroddiadau, dywedodd y band fod yr arddangosiad wedi cael ei greu gan Banksy, ac nad oedden nhw'n ymwybodol o beth ddigwyddodd tan ar ôl iddyn nhw orffen eu perfformiad.