Bachgen 14 oed ar goll ar ôl nofio yn Afon Mersi
01/07/2024
Mae bachgen 14 oed ar goll ar ôl nofio yn Afon Mersi gyda'i ffrindiau, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y bachgen ei wahanu gan ei ffrindiau tra'n nofio ger traeth Crosby ddydd Sul, ac nid yw wedi cael ei weld ers hynny yn ôl Heddlu Glannau'r Mersi.
Dywedodd y llu: "Rydym yn gofyn i bobl osgoi'r ardal ar hyn o bryd, tra mae'r gwasanaethau brys, gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans y Gogledd Orllewin a'r bad achub, yn parhau i chwilio am y bachgen sydd ar goll."
Yn ôl adroddiadau, roedd pum ambiwlans, chwe injan dân a thri cherbyd heddlu yn bresennol yn yr ardal.