Newyddion S4C

Buddugoliaeth i'r asgell dde eithafol yn rownd gyntaf etholiadau Ffrainc

Buddugoliaeth i'r asgell dde eithafol yn rownd gyntaf etholiadau Ffrainc

Roedd hi'n noson lwyddiannus i'r asgell dde eithafol yn Ffrainc nos Sul yn y rownd gyntaf o etholiadau'r cynulliad. 

Enillodd plaid y Rali Genedlaethol, Rassemblement National, 33.2% o'r bleidlais, gyda'r glymblaid asgell chwith yn sicrhau 28.1% a chlymblaid yr Arlywydd Emmanuel Macron yn ennill 21%.

Dywedodd arweinydd y Rali Genedlaethol Jordan Bardella: "Dwi'n anelu at fod yn brif weinidog ar gyfer holl bobl Ffrainc, os ydy'r Ffrancwyr yn pleidleisio drostom ni."

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y wlad i'r asgell dde eithafol ennill y rownd gyntaf o etholiadau cynulliad. 

Bydd y rownd nesaf yn cael ei chynnal ddydd Sul, gyda Marine Le Pen a Jordan Bardella yn anelu at sicrhau mwyafrif o 289 o'r 577 o seddi yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Nid oedd angen i Emmanuel Macron alw'r etholiad am dair blynedd arall, ond wedi llwyddiant y Rali Genedlaethol yn etholiadau Ewrop, dywedodd mai dyma oedd y "datrysiad mwyaf cyfrifol".

Wrth ymateb i'r canlyniad nos Sul, dywedodd Prif Weinidog Ffrainc Gabriel Attal: "Ni ddylai unrhyw bleidlais fynd i'r Rali Genedlaethol. Mae cymaint yn y fantol er mwyn sicrhau na fydd y Rali Genedlaethol yn sicrhau mwyafrif."

Beth bynnag y canlyniad, mae Mr Macron wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo fel arlywydd.

Byddai llwyddiant i'r Rali Genedlaethol yn gallu arwain at bron i dair blynedd o 'cohabitation', sef pan mae arlywydd un plaid yn bennaeth y wlad, a phlaid arall yn arwain y llywodraeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.