Newyddion S4C

Lluniau: Achub dynes a’i chi o greigiau yn y môr yn Llandrillo-yn-rhos

Achub ci

Mae dynes a’i chi wedi eu hachub gan y bad achub o greigiau yn y môr yn Llandrillo-yn-rhos.

Lansiwyd y bad achub o Landudno am 5:16 ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiad fod yn ddynes a’i chi yn sownd ar y graig.

Dywedodd gwylwyr y glannau eu bod nhw wedi cyrraedd erbyn 5:30 er gwaethaf gwyntoedd cryfion.

Roedd y ddynes wedi mynd yn sownd ar y graig wrth i’r llanw ddod i mewn wedi iddi redeg ar ôl y ci, ac roedd hi wedi dioddef mân anafiadau.

Image
Y ddynes a'r ci

“Dechreuodd weiddi am gymorth, gan annog y bad achub i ddod o hyd iddi hi a'i chi,” medden nhw. 

“Aed â’r ddau ar fwrdd y cwch a’u cludo’n ôl i’r lan yn ddiogel, lle cawsant eu trosglwyddo i Wylwyr y Glannau Llandudno cyn i’r bad achub ddychwelyd i’w ganolfan."

Image
Y ddynes a'i chi

Dywedodd llefarydd ar ran y Bad Achub Brenhinol: “Mae’r llanw yn gallu dod i mewn yn gyflym a dal pobl.

“Roedd y ddynes y bore yma wedi sylwi ei bod mewn trafferth, ond yn gwybod na fyddai’r garreg yr oedd arni’n mynd o dan y dŵr.

"Fe wnaeth hi’r penderfyniad cywir i alw am gymorth yn hytrach na cheisio ei hachub ei hun.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.