Enwebiadau yn agor ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru
Bydd enwebiadau yn agor ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Llun.
Bydd pobl ifanc yn pleidleisio dros 60 Aelod newydd i gynrychioli eu barn ar faterion allweddol a’i chyfleu i Aelodau Seneddol sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
Gall darpar ymgeiswyr sydd rhwng 11 a 17 oed ar ddyddiad yr etholiad, sef 25 Tachwedd, gwneud cais ar gyfer fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru am hyd ddwy flynedd.
Mae'r aelodau yn dewis tri phwnc i flaenoriaethu a'r pynciau dewiswyd y llynedd oedd cwricwlwm ysgol, iechyd meddwl a lles, a’r hinsawdd.
Bydd yr aelodau newydd yn cael cymorth i lunio adroddiad ar bob un o’r pynciau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r rhain yng nghyfarfodydd y 60 Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn y Senedd.
'Gwrando ar ein syniadau'
Dywedodd cyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Ellis Peares bod ei brofiadau gyda'r Senedd wedi ei helpu datblygu sgiliau a rhoi llawer o gyfleoedd iddo.
“Mae’n gyfle gwych i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed – dyna oedd yn bwysig i mi pan benderfynais sefyll. Roedd llawer o bethau roeddwn i eisiau eu newid, a dyma oedd fy nghyfle i wneud hynny," meddai.
“Cefais gyfle i siarad â chymaint o bobl bwysig fel Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, ac fe wnaethon nhw wrando ar ein syniadau.
“Rhoddodd lawer o gyfleoedd i mi, fel siarad yn y Siambr. Does dim llawer o bobl yn gallu dweud eu bod wedi gwneud hynny.
“Mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran pethau rydw i wedi’u gwneud ers hynny – fel cael gwahoddiad i eistedd ar Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru – na fyddwn byth wedi gallu eu gwneud heb fy mhrofiad yn Senedd Ieuenctid Cymru.”
Llun: Senedd Ieuenctid Cymru