
Lluniau: Y Teulu Brenhinol yn agor drysau castell Blamoral i'r cyhoedd
Mae'r Teulu Brenhinol wedi agor drysau castell Balmoral i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
O ddydd Llun bydd pobl sydd wedi prynu tocynnau yn gallu mynd ar daith o amgylch y castell yn Sir Aberdeen yn yr Alban.
Cafodd y tocynnau oedd yn costio hyd at £150 gyda te prynhawn eu gwerthu i gyd o fewn 24 awr, gyda 40 o bobl bob dydd yn cael ymweld â'r castell.
Mae'r castell yn enwog fel cartref gwyliau i'r Teulu Brenhinol a'r adeilad lle y bu farw'r Frenhines Elizabeth II, yr unig frenin neu frenhines i farw yn yr Alban o linach teulu brenhinol Lloegr.

Mae James Hamilton Goddard, rheolwr menter ymwelwyr ar gyfer Ystâd Balmoral, wedi bod yn gweithio gyda'i dîm i agor cyntedd y breswylfa frenhinol, y coridor coch, y prif ystafelloedd bwyta ac ystafelloedd bwyta'r teulu, y llyfrgell a'r ystafell fyw i'r cyhoedd.
“Mae’n lle godidog, rwy’n meddwl bod y Brenin eisiau i bobl weld y tu fewn i'r castell," meddai.
“Bydd y cyhoedd a lwyddodd i gael tocyn yn gadael ar ôl gweld tŷ gwyliau’r teulu brenhinol - dyna’n union beth ydyw, mae’n teimlo’n gartrefol iawn.”


Mae’r Brenin wedi newid carpedi’r parlwr yn ôl i dartan, sef y steil gwreiddiol o orchuddion llawr yr oedd Victoria wedi’u gosod yn y castell.
Mae paentiadau gan yr arlunydd Fictoraidd Syr Edwin Henry Landseer a ddewiswyd gan Charles ar hyd waliau'r castell.
Yn llyfrgell y castell, a oedd unwaith yn ystafell frecwast a chinio Y Frenhines Fictoria, mae stydi y Brenin, lle mae wedi croesawu nifer o bwysigion o bob rhan o’r byd.
Mae’r llyfrau sydd ar y silffoedd yn cynnwys cyfrolau ar Hanes yr Alban, areithiau'r Brenin Albert, yn ogystal â nofelau a llyfrau ar farddoniaeth a chelf.
Lluniau: PA