Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru ‘yn mynd i gael yr un rheolaeth dros fuddsoddiad a chyn gadael yr Undeb Ewropeaidd’

30/06/2024
Jo Stevens

Mae Ysgrifennydd Cysgodol Cymru wedi dweud y bydd gan Lywodraeth Cymru'r un rheolaeth dros fuddsoddiad yn y wlad a chyn gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) os yw Llafur yn fuddugol yn yr etholiad.

Mae ansicrwydd wedi bod ynglŷn â faint o reolaeth y byddai gan Lywodraeth Cymru dros yr arian, sydd wedi disodli arian oedd yn dod i Gymru o’r UE, petai yna lywodraeth Lafur yn San Steffan.

Roedd arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi awgrymu y byddai'r cyfrifoldeb am wario’r arian yn cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Wrth ymddangos ar raglen Sunday Supplement ddydd Sul dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Cymru Jo Stevens mai Llywodraeth Cymru fyddai yn buddsoddi a rheoli'r arian.

“Bydd y rôl wrth wneud penderfyniadau wrth wario'r cronfeydd hyn a oedd gan Lywodraeth Cymru cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei hadfer gan lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol,” meddai.

“Felly yn union fel o’r blaen, Llywodraeth y DU sy’n gosod agenda bolisi’r DU ac yn dyrannu’r cyllid i Lywodraeth Cymru. 

“Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am fuddsoddi a rheoli’r arian yng Nghymru ac mae’n gwerthuso ac yn adrodd yn ôl i lywodraeth y DU. 

“Felly yn union fel yr oedd o'r blaen. 

“Does dim angen creu dryswch o gwmpas hyn. Rydyn ni wedi bod yn glir iawn, mae'n dychwelyd i'r sefyllfa a fodolai o'r blaen.”

‘Aberthu’

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o geisio cadw “gafael tynn” ar yr arian.

“Dydyn nhw ddim eisiau i’r SNP gael yr arian ac maen nhw’n hapus i aberthu Llywodraeth Cymru ar yr un allor,” meddai ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol iawn os yw Llafur mewn grym, fel sy’n edrych yn debygol.

“Oherwydd rydyn ni'n mynd i gael yr anghytundeb sylfaenol hwn rhwng aelodau Senedd Llafur Cymru ar faterion fel yr arian sy’n ddyledus i Gymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru ac ymgeisydd y blaid Geidwadol yn Sir Fynwy, David TC Davies, nad oedd Llywodraeth Cymru yn haeddu grymoedd pellach.

“Dydyn nhw ddim wedi gwneud gwaith da iawn gyda'r pwerau sydd ganddyn nhw,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn cymryd cyfrifoldeb am y pwerau sydd ganddyn nhw. Mae bob amser yn fai ar rywun arall.

“Felly, ar bwnc cyllid, maen nhw'n cael punt 20 ceiniog y pen, am bob punt sy'n cael ei gwario yn Lloegr. 

“Mae angen iddyn nhw ddweud ‘Reit, dydyn ni ddim wedi cael hyn yn iawn, mae gennym ni'r arian, rydyn ni'n mynd i drwsio hyn’. Yn lle dweud bai rhywun arall yw popeth.”

Llun: Jo Stevens gan Ben Birchall / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.