Newyddion S4C

Heddlu yn saethu ci XL Bully ar ôl iddo ymosod ar ddynes

30/06/2024
Heddlu a'r ci XL Bully

Mae swyddogion yr heddlu wedi saethu ci XL Bully ar ôl iddo ymosod ar ddynes a'i hanafu ym Manceinion.

Dywedodd Heddlu Manceinion eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am "gi peryglus sydd allan o reolaeth" yn ymosod ar bobl yn nhref Eccles yn y ddinas tua 21:00 nos Wener.

Roedd heddlu arfog wedi saethu'r ci yn farw yn y lleoliad wedi i aelodau'r cyhoedd fethu â "chymryd rheolaeth" ohono, meddai'r llu.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Manceinion bod y swyddogion wedi "ceisio gafael yr XL Bully ond yn aflwyddiannus".

Roedd swyddogion wedi gwneud y penderfyniad "i'w ddinistrio fel opsiwn olaf".

Cafodd lluniau eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn awgrymu fod yr heddlu wedi saethu at y ci nifer o weithiau tra bod llais dyn yn cael ei glywed yn dweud "plîs peidiwch â llad fy nghi".

Mae'r fenyw a chafodd ei hymosod arni yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.

Mae dau ddyn wedi cael ei harestio ar ôl gwrthdaro gyda swyddogion yr heddlu, meddai Heddlu Manceinion.

Ychwanegodd y llu bod ymholiadau ynglŷn â pherchennog y ci yn parhau.

Cyfyngiadau XL Bullys

Ers 1 Chwefror, mae'n drosedd i fod yn berchen ar frîd XL Bully yng Nghymru a Lloegr heb dystysgrif eithrio.

Ddydd Sul yw'r diwrnod olaf ar gyfer sicrhau bod pob XL Bully sydd wedi'i eithrio wedi'i ysbaddu.

Rhaid i berchnogion cŵn XL Bully cofrestredig a oedd yn 12 mis oed neu’n hŷn ar 31 Ionawr 2024 sbaddu eu cŵn erbyn diwrnod olaf mis Mehefin.

Mae’n rhaid bod unrhyw un sy’n berchen ar un o’r cŵn wedi sbarddu yr anifail, ei fod wedi gosod microsglodyn a’i gadw ac ar dennyn yn gyhoeddus, ymhlith cyfyngiadau eraill.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 16 o farwolaethau oherwydd ymosodiadau gan gŵn yn 2023, cynnydd sydyn ers y blynyddoedd blaenorol pan oedd nifer yr ymosodiadau wedi bod mewn ffigurau sengl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.