Dartiau: Cymru allan o Gwpan y Byd
Mae Cymru allan o Gwpan Dartiau'r Byd ar ôl colli i Croatia yn rownd yr 16 olaf.
Fe gollodd Jonny Clayton a Jim Williams 8-6 yn Frankfurt nos Sadwrn, sydd yn golygu na fydd Cymru yn codi'r tlws eleni ar ôl ennill y gystadleuaeth y llynedd.
Roedd y pâr wedi methu pedwar cyfle i fynd 7-6 ar y blaen cyn i Boris Krcmar a Romeo Grbavac gymryd mantais er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth i Groatia.
Dywedodd Grbavac mai dyma oedd y fuddugoliaeth orau yn ei yrfa.
"Dwi'n gwybod ein bod ni'n gallu curo unrhyw un, ond mae hon yn foment fawr i Croatia a dartiau Croatia ac rydym yn hapus iawn.
"Dyma fuddugoliaeth orau fy ngyrfa. Roedd gan Boris ffydd ynof i ac roedd gen i ffydd ynddo fe. Rydw i'n hapus dros fi fy hun, Boris a phobl Croatia."
Enillodd Gerwyn Price a Jonny Clayton y gystadleuaeth yn 2020 ac yn 2023, ond eleni bu rhaid i Price dynnu allan oherwydd "problemau iechyd."
Bydd Croatia yn herio Awstria yn rownd yr wyth olaf ddydd Sul.
Llun: Jonas Hunold