Rygbi: Cymru yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2025 gyda buddugoliaeth yn erbyn Sbaen
Mae Cymru wedi hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd 2025 gyda buddugoliaeth yn erbyn Sbaen ddydd Sadwrn.
Enillodd y crysau cochion 52-20 yn erbyn Sbaen i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth a hefyd ail haen y gystadleuaeth fyd eang WXV2, fydd yn cael ei chwarae yn Ne Affrica fis Medi a Hydref.
Dechreuodd Cymru yn gryf wrth i Alex Callander sgorio dan y pyst wedi pedair munud yn unig.
Naw munud yn ddiweddarach fe aeth y tîm cartref ymlaen i sgorio eu hail wrth i Abbie Fleming groesi'r llinell.
Daeth y Sbaenwyr yn ôl mewn i'r gêm gyda cheisiau gan Ines Antolinez, Claudia Perez a Claudia Pena.
Ond roedd sgoriau Cymru cyn hynny yn sicrhau mai nhw oedd ar y blaen 21-20 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Newidiodd y gêm o fod yn un agos i chwalfa wrth i Gymru sgorio tri chais o fewn 20 munud yn yr ail hanner.
Sgoriodd Carys Cox ei chais gyntaf o'r noson wedi 46 munud cyn i Alisha Joyce-Butchers sgorio 10 munud yn ddiweddarach yn dilyn adolygiad trylwyr gan y dyfarnwr teledu.
Carys Cox sgoriodd ei hail yn dilyn sgarmes symudol o'r lein a oedd yn golygu bod Cymru ar y blaen 40-20.
Sgoriodd cefnwr Cymru Jenny Hesketh wedi 72 munud ac fe sgoriodd Cox ei thrydedd o'r noson i gwblhau hat-tric.
Llun: Asiantaeth Huw Evans