Newyddion S4C

'Cam mawr i'r iaith': Google Translate ar gael yn y Llydaweg am y tro cyntaf

Aneirin Karadog

Mae peiriant cyfieithu arlein Google Translate yn cynnig cyfieithu i'r Llydaweg am y tro cyntaf, sydd yn "gam mawr" ymlaen i'r iaith yn ôl y bardd a'r ieithydd Aneurin Karadog.

Mae’r Llydaweg yn un o 110 iaith newydd sydd wedi eu hychwanegu, gan ddod a’r cyfanswm i 243.

Mae iaith Ynys Manaw, y Fanaweg, hefyd wedi ei hychwanegu.

Y Llydaweg a’r Fanaweg yw’r bedwaredd a'r bumed iaith Geltaidd sydd ar gael ar y gwasanaeth, gan ddilyn y Gymraeg, y Wyddeleg a Gaeleg yr Alban.

Dywedodd Aneirin Karadog, sydd yn gallu siarad Llydaweg, ei fod yn "beth mawr" i'r iaith.

"Dwi’n meddwl bod 'na deimlad o ddathlu, bod 'na fuddugoliaeth fawr yn cael ei phrofi yn Llydaw ar gyfer y Llydaweg a bob pobl yn falch bod hyn yn digwydd o'r diwedd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi’n meddwl bydd e’n hwyluso bywyd, yn agor pethau lan a hefyd mae symudiadau fel hyn yn rhoi gwerth a statws i iaith.

"Y drafferth i Lydäwyr Llydaweg sydd yn gwneud eu gorau glas i arddel a hybu'r iaith yw bod y wladwriaeth, technoleg a busnesau preifat ddim yn cefnogi ac yn milwrio yn erbyn pethau, fel oedd yng Nghymru cyn y ddeddf iaith," meddai.

"Mae cael y statws yma yn gallu gwneud newid meddylfryd ac atgyfnerthu'r rheiny sydd yn siarad yn barod a denu eraill i ddysgu ac ail-ddysgu'r iaith hefyd."

Dywedodd Google mai dyma’r “ehangiad mwyaf” ar y peiriant cyfieithu erioed.

“Mae’r ieithoedd newydd hyn yn cynrychioli mwy na 614 miliwn o siaradwyr, sef tua 8% o boblogaeth y byd,” meddai Google mewn datganiad," medden nhw.

“Mae rhai yn ieithoedd mawr yn y byd, gyda dros 100 miliwn o siaradwyr.

“Mae eraill yn cael eu siarad gan gymunedau brodorol bach, a does gan rai bron i ddim siaradwyr brodorol ond mae yna ymdrechion i’w hadfywio.”

'Statws i'r iaith'

Mae tua 210,000 o siaradwyr Brezhoneg yn byw yn Llydaw, gyda degau o filoedd hefyd yn Ffrainc.

Bu farw'r Fanaweg fel iaith gyntaf yn 1974 ond fe'i hadfywiwyd gyda rhyw gant o siaradwyr.

Roedd y Gymraeg ymysg yr ieithoedd cynharaf i gael ei ychwanegu at Google Translate, a hynny yn 2009, tair blynedd ar ôl lansiad y gwasanaeth.

Dywedodd Aneirin Karadog bod y penderfyniad yn hwb i'r iaith ac yn gallu denu siaradwyr newydd.

"Ers i’r Gymraeg fod ar Google Translate ac ers i safon y Gymraeg wella ar Google Translate, mae'r safon yn dda iawn i’r graddau bod rhywun yn gallu cyfieithu’n broffesiynol a golygu unrhyw wallau," meddai.

"Bydd awdurdodau yn gallu cyfoethogi’r eirfa a’r gystrawen a'r adnoddau sydd ar gael i Google Translate ac efallai wrth i ddefnydd technoleg fel AI digwydd, maen nhw’n gallu crafu gwybodaeth ar y we a ffurfio brawddegau ei hunain felly efallai bydd Google Translate yn gallu cael ei bweru gan dechnoleg arall.

"Mae galw wedi bod am y math yma o beth, mae yna dal llawer i’w wneud ond mae hwn yn gam mawr ymlaen."

'Gwallus'

Dywedodd Dr Rhisiart Hincks o Brifysgol Aberystwyth sy’n arbenigwr ar yr iaith ei fod yn croesawu’r datblygiad.

Ond ar ôl rhoi tro ar Google Translate Llydaweg roedd yn rhybuddio na ddylid ei ddefnyddio yn lle cyfieithu proffesiynol.

“Mae braidd yn wallus o hyd er y gobaith yw y bydd yn gwella gydag amser,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae yna lawer sydd yn dod allan yn iawn ond mae yna broblemau gramadegol a diffyg geirfa.

“Mae’n ddefnyddiol fel sylfaen ond yna mae angen i rywun sydd â dealltwriaeth o’r iaith i fynd drwyddo a chywiro pethau.

“Ond mae’n beth da ar y cyfan. Fe fydd yn codi proffil yr iaith a bydd pobl yn gweld fod yr iaith yn bod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.