Newyddion S4C

Byddin yr Iachawdwriaeth yn 'cofleidio'r Gymraeg' wrth gyhoeddi cylchgrawn dwyieithog

Byddin yr Iachawdwriaeth yn 'cofleidio'r Gymraeg' wrth gyhoeddi cylchgrawn dwyieithog

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gobeithio "cofleidio'r Gymraeg" wrth ddathlu 150 mlynedd yng Nghymru meddai ei gweithwyr.

Mae'r eglwys a'r elusen wedi nodi'r garreg filltir eleni drwy gyhoeddi eu cylchgrawn Bloedd y Gad yn ddwyieithog am y tro cyntaf.

Capten Deryk Durrant o Wrecsam oedd wedi gwthio ar gyfer cylchgrawn dwyieithog ac wedi goruchwylio'r broses o gyhoeddi'r rhifyn arbennig.

"Y rhifyn arbennig hwn yw'r cyntaf rydym wedi ei gwneud yn ddwyieithog yn ein hanes 150 mlynedd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'r straeon yma yn rhai newydd, dydyn nhw heb gael eu hadrodd yn Saesneg ac rydym ni wedi eu cyfieithu nhw.

"Mae'r rhain yn straeon sydd erioed wedi cael eu hadrodd o'r blaen yn y Gymraeg na'r Saesneg felly rydym yn falch iawn i allu eu cyflwyno yn y modd yma."

Iaith sy'n 'byw yn y galon'

Cafodd rhai rhifynnau unigol o'u cylchgrawn The War Cry eu cyhoeddi yn y Gymraeg yn yr 19eg ganrif.

Ond wrth i'r blynyddoedd fynd heibio mae rhai gweithwyr yn meddwl eu bod nhw wedi colli eu ffordd wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Un o rheiny yw Capten Kathryn Stowers, Swyddog Eciwmenaidd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd.

"Pan ddechreuon ni yng Nghymru, dywedodd William Booth bod y fyddin angen gweddïo yn y Gymraeg ac addoli yn y Gymraeg, siarad yn y Gymraeg," meddai.

"Rydyn ni wedi colli tipyn bach o hynny dros y blynyddoedd a nawr rydyn ni'n dechrau meddwl am sut mor bwysig mae'r iaith i ni fel byddin."

Image
Byddin yr Iachawdwriaeth
Capten Kathryn Stowers, Jeff Smith a Chapten Jonathan Edwards yn un o swyddfeydd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd

Er nad yw Capten Durrant yn siarad Cymraeg, mae'r iaith yn golygu llawer iddo ac mae ef eisiau gweld Byddin yr Iachawdwriaeth yn gwneud defnydd o'r iaith tu hwnt i'w gofynion cyfreithiol.

"Pan rydym yn dod ar draws pethau yn yr iaith sy'n byw fan hyn [y galon], mae'n ein cyffwrdd mewn ffordd ddyfnach," meddai.

"Felly dyna pan mae'n bwysig i mi fod Byddin yr Iachawdwriaeth yn defnyddio’r Gymraeg, nid yn unig lle mae angen i ni, pan mae 'na ofynion cyfreithiol, ond ein bod ni'n ei chofleidio a'i defnyddio pryd bynnag a lle bynnag ni'n gallu."

Yr Is-gyrnol Jonathan Roberts yw pennaeth y fyddin yng Nghymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C bod gan yr iaith Gymraeg le pwysig yn hanes a gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth.

"Mae'r iaith Gymraeg wedi bod yn arwyddocaol yng ngwaith Byddin yr Iachawdwriaeth ers y dyddiau cynnar," meddai.

"Yn yr 1880au roeddem wedi cynhyrchu copïau iaith Gymraeg o'r War Cry, sef ein cylchgrawn.

"Dyma'r rhifyn cyntaf dwyieithog, felly mae'n dathlu ein pen-blwydd 150 mlynedd ac mae'n adrodd straeon trawsffurfiad ein cymunedau, bywydau'r unigolion a dyna pan mae stori Byddin yr Iachawdwriaeth yn un am helpu pobl newid eu bywydau am y gorau."

Heriau

Thema Byddin yr Iachawdwriaeth eleni yw ‘Dyma Gariad.’

Gyda llai o bobl yn mynd i’r eglwys nag o’r blaen, mae’r fyddin yn gobeithio y bydd dathlu’r 150 mlynedd yn atgoffa pobl o’u gwaith.

"Mae llawer o bobl ddim yn mynd i'r eglwys yn cymharu i flynyddoedd yn ôl," meddai Capten Kathryn Stowers

"Felly, mae'n anodd i gael bobl i gweithio a jyst i fod yn rhan o beth rydyn ni'n gwneud."

Dywedodd Is-gyrnol Jonathan Roberts: "Wrth adeiladu ar ein thema eleni sef 'Dyma Gariad', sydd yn dod o hen emyn Cymreig, rydym ni eisiau gweld hynny yn amlwg yn ein gwaith fel bod pobl yn gweld Byddin yr Iachawdwriaeth a gweld lle sydd llawn cariad, ffydd a gobaith."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.