Newyddion S4C

Ynys Môn: Datblygu tai o’r 17eg ganrif yn dai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc

Elusendai Penmynydd

Mae cynllun £600,000 wedi ei gyhoeddi er mwyn datblygu elusendai a gafodd eu hadeiladu yn y 17eg ganrif yn dai ar gyfer pobl ifanc yn lleol ar Ynys Môn.

Cafodd y tai eu hadeiladu tua 1620 er mwyn rhoi lloches i bobl Pentraeth, Llanddyfnan, Llanfihangel ac Ysgeifiog.

Dywedodd ymddiriedolwyr Elusendai Penmynydd, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Elusendai Lewis Rogers, bod y tai wedi eu defnyddio am 400 o flynyddoedd ond does neb wedi byw ynddyn nhw am rhai blynyddoedd bellach.

Bydd y  prosiect "cyffrous" yn cael ei gynnal "gan bobl leol er mwyn pobl leol", meddai cadeirydd yr ymddiriedolwyr, Dafydd Idriswyn.

"Rydyn ni wedi cydnabod yr angen am dai gyda dwy ystafell wely ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal. Mae tai fforddiadwy mewn rhannau gwledig o Ynys Môn bron yn amhosib dod o hyd iddynt," meddai.

"Bwriad yr elusendai oedd helpu pobl ond rydym yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu defnyddio i roi dechrau da mewn bywyd i aelodau ifanc ein cymunedau."

Image
Tom Brown a Dafydd Idriswyn
Y preswylydd olaf Tom Brown a Dafydd Idriswyn

'Cadw nodweddion'

Fe fydd nifer o nodweddion yr elusendai yn aros yr un peth, meddai Mr Idriswyn.

“Mae’r elusendai yn dal i gadw llawer o’u nodweddion gwreiddiol o’r 17eg ganrif. Mae’n rhaid i ni eu cadw, ond mae’r cyfan yn ychwanegu at gost y prosiect,” meddai Dafydd.

Bydd rhes o siediau, a ychwanegwyd yn y 19eg ganrif ar gyfer storio ac ar gyfer ystafelloedd ymolchi, hefyd yn cael eu diweddaru a bydd system garthffosiaeth newydd yn cael ei gosod.

Mae nodweddion nodedig yr adeiladau yn cynnwys y simneiau carreg mawr, myliynau carreg, linteli drysau, a ffenestri gwydr plwm i'w cadw gydag ychwanegiadau gwydr dwbl modern.

Yn ôl Dafydd, credir mai’r preswylydd diweddaraf oedd Tom Brown, a oedd yn byw yn Rhif 2. Mae ei ddrws wedi’i nodi â’r gair ‘Brown.’

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.