Gwirfoddolwyr yn dechrau chwilio o'r newydd am Jay Slater ar Tenerife
Mae gwirfoddolwyr wedi dechrau chwilio o’r newydd am ddyn ifanc o Loegr sydd ar goll ar Tenerife.
Daw wedi i heddlu yn Tenerife alw am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y chwilio am Jay Slater.
Mae'r chwilio'n canolbwyntio ar y ceunentydd a'r llwybrau o amgylch pentref Masca ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.
Fe ddechreuodd o fwyty Mirador de la Cruz de Hilda tua 10.00 fore Sadwrn.
Roedd Jay Slater, o Oswaldtwistle yn Sir Gaerhirfryn wedi teithio i’r ynys ar gyfer gŵyl gerddoriaeth ac ar ei wyliau cyntaf heb ei rieni.
Nid oes unrhyw un wedi clywed ganddo ers iddo ffonio ffrind toc cyn 09:00 ar ddydd Llun 17 Mehefin, yn dweud ei fod ar goll a bod angen dŵr arno.
Dywedodd mam un o ffrindiau Jay Slater, Rachel Hargreaves, ei bod hi a'i mab yn mynd i aros yn Tenerife "cyhyd ag y mae'n ei gymryd" i ddod o hyd iddo.
Dywedodd: "Allwch chi ddim rhoi mewn geiriau sut rydych chi'n teimlo. Rydw i yma yn ceisio cefnogi [ei fam] a bod yn gryf drosti.”