Newyddion S4C

Dadorchuddio murlun o’r actor Richard Burton yn y pentref lle gafodd ei eni

Heno

Dadorchuddio murlun o’r actor Richard Burton yn y pentref lle gafodd ei eni

Bydd murlun o’r actor Richard Burton yn cael ei ddadorchuddio heddiw yn y pentref lle gafodd ei eni.

Mae'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi canrif ers geni’r seren Hollywood ym Mhontrhydyfen ger Cwmafan.

Mae’r murlun ar ochor tafarn y Miners Arms lle’r oedd ei dad yn arfer yfed.

Cafodd y murlun o'r seren a ymddangosodd yn rhai o ffilmiau mwyaf ei gyfnod gan gynnwys Cleopatra, gyda’i wraig Elizabeth Taylor, a Who's Afraid of Virginia Woolf?, ei greu gan yr artist Dave ‘Nasher’ Nash.

Dywedodd Ann Tohgill, un o drefnwyr Gŵyl Bont Burton wrth raglen Heno: “Yn 2025 byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni Richard Burton.

“Mae hefyd yn 200 mlynedd ers adeiladu'r Bont Fawr.

“Felly fe gaethon ni'r syniad o sefydlu gŵyl er mwyn dathlu hwnna.

“Er nad yw hi’n 2025 eto mae’r dathlu yn dechrau nawr gyda’r murlun.

“Mae yna lun eiconig o Richard Burton a’i dad yn y bar.

“Mae twristiaid yn troi lan yma o Japan ac America ac os nad yw’r pyb ar agor maen nhw’n siomedig.

“Wel nawr fe fyddwn nhw’n gallu dod a chael llun gyda’r murlun gyda’r dyn ei hunan fel petai.”

Llun gan Heno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.