Newyddion S4C

Rygbi merched: Un ymdrech olaf mewn gêm hollbwysig yn y brifddinas

28/06/2024

Rygbi merched: Un ymdrech olaf mewn gêm hollbwysig yn y brifddinas

Y rhyddhad ar wyneb y Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham ar ôl llwyddo i guro'r Eidalwyr yng ngêm ola'r 6 Gwlad eleni yn adrodd cyfrolau.

Colli pedair, ennill un oedd hi i Gymru yn y bencampwriaeth.

Siom o gofio bod dros 30 o chwaraewyr bellach ar gytundebau proffesiynol llawn amser.

Oherwydd y canlyniadau siomedig mae Cymru rwan am orfod brwydro yn erbyn Sbaen am le yn ail haen y gystadleuaeth WXV.

"Mae pawb yn gwybod oedd y 6 Nations yn galed... "..a dim un o ni isie fe fynd fel'na.

"Ni'n gorfod mynd mas dydd Sadwrn a chwarae fel ni'n gwybod ni'n gallu."

"Rhoi perfformiad mawr mewn a gobeithio cael y canlyniadau... "..i ni symud ymlaen."

Llynedd fe chwaraeodd Cymru ym mhrif haen y gystadleuaeth y WXV1.

Ond gan iddynt danberfformio yn y 6 Gwlad y gorau allen nhw obeithio amdano fo eleni ydy'r ail haen a hynny os byddan nhw'n curo Sbaen ar Barc yr Arfau.

"Mae'r gêm yn anferth i fod yn onest.

"Mae shwt gyment yn meddwl am ganlyniad y gêm i ni fel tîm... "..a ble ni'n gallu gorffen ar ddiwedd y tymor.

"Mae fe'n un mawr."

Os bydd Cymru'n curo Sbaen byddan nhw hefyd yn cael lle yng Nghwpan y Byd sy'n cael ei chynnal yn Lloegr blwyddyn nesa.

Wrth reswm mae Cunningham wedi dewis sawl chwaraewr profiadol.

Fe fydd Georgia Evans ac Abby Fleming yn wynebu Sbaen bum mlynedd ar ôl ennill eu capiau cyntaf dros Gymru allan ym Madrid.

Fe fydd Cerin Lake yn ennill ei 50fed cap ac yn cychwyn yn y canol gyda'r capten Hannah Jones.

"Ni'n edrych ymlaen i chwarae.

"Mae'r merched wedi gweithio'n galed ac ymarfer bob wthnos.

"Bydd merched eraill yn y Prem jyst wedi dod nôl nawr... "..felly gobeithio byddwn ni'n gallu cael y perfformiad ni 'di cael... "..gyda Gloucester i ddod mewn i Gymru.

"Pwysig edrych ymlaen a gobeithio bod ni'n ennill."

Ar ôl tymor hir a chaled i Gymru mi fydd angen un ymdrech olaf mewn gêm hollbwysig yn y brifddinas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.